En

VTCT Diploma mewn Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C (neu’n uwch) arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, a raid i chi fod wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur Cyfryngau/Colur Theatrig.

Mae mynediad uniongyrchol at y rhaglen hon yn bosib os oes gennych brofiad blaenorol yn y diwydiant colur.

Yn gryno

Mae hwn yn gwrs deinamig a manwl sy’n edrych ar y gwaith crefftus a wneir gan artistiaid colur effeithiau arbennig a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y maes cyffrous hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych wrth eich bodd â phopeth yn ymwneud â thrin gwallt a harddwch
... Mae gennych ddiddordeb arbennig mewn colur ar gyfer y theatr, teledu a ffilm
... Rydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
... Rydych chi'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant ac wedi cwblhau cwrs Colur Theatrig Lefel 2 neu’n meddu ar brofiad cyfatebol yn y diwydiant.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae artistiaid effeithiau colur arbennig yn gweithio gyda modelau byw neu berfformwyr i’w trawsnewid nhw’n gymeriadau neu greaduriaid (fel arfer at ddibenion sioe neu ddrama fel y disgrifir mewn sgriptiau ffilm a theledu). Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi colur a/neu brostheteg ymlaen i gyflawni’r effaith theatrig ddymunol.

Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa lwyddiannus mewn colur theatrig a'r cyfryngau a byddwch yn dysgu am weithio yn y diwydiant. Yn ystod eich amser yn y coleg, bydd cyfleoedd i fynychu profiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu:

  • Colur ar gyfer y llwyfan a ffilm
  • Colur ffantasi
  • Colur cymeriad
  • Prostheteg
  • Gwallt priodasol a ffantasi
  • Lleoliad gwaith (sesiynau ffotograff, ffilmiau byrion a theatr)
  • Colur chwistrell baent a chelf corff
  • Ffasiwn uchel
  • Peintio wyneb a chorff
  • Heneiddio ar gyfer y llwyfan a ffilm
  • Capiau moel
  • Barfau gwallt a mwstashis crêp
  • Colur cyfnod
  • Effeithiau damwain
  • Cuddliw a gwrthdroad rhyw
  • Priodasol Asiaidd

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac ar-lein, aseiniadau a phortffolio o waith. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Lefel 3 Colur Theatrig
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, a rhaid i chi fod wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur Cyfryngau/Colur Theatrig.

Mae mynediad uniongyrchol at y rhaglen hon yn bosib os oes gennych brofiad blaenorol yn y diwydiant colur.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu cael cyflogaeth yn y diwydiant colur drwy waith teledu, theatr neu lawrydd, neu gallwch fynd ymlaen i astudio cwrs addysg uwch megis ein cwrs HNC/HND mewn Colur Arbenigol ar Gampws Crosskeys.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg arbennig
  • Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Dim tyllau corff
  • Ni chaniateir gwisgo unrhyw emwaith ac eithrio modrwy briodas yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, cost i'w gardarnhau. 

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 3?

CFDI0202AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr