Yn gryno
Bydd y Diploma VTCT Lefel 3 mewn Triniaethau Therapïau Harddwch yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapiwt harddwch a bydd yn eich cefnogi i ennill cyflogaeth.
...rydych chi eisiau symud ymlaen i Therapi Harddwch Lefel 3 , neu os ydych chi wedi gweithio yn y diwydiant ers llawer blynyddoedd ac eisiau gwella ymhellach eich ystod o driniaethau therapi harddwch a gynigir yn eich gweithle.
Fel rhan o ofynion y cwrs, mae lleoliad gwaith undydd mewn salon neu sba o’ch dewis yn hanfodol er mwyn ennill hyder a phrofiad yn eich triniaethau therapi harddwch. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn rhoi profiad o’r diwydiant i chi.
Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer y rheini a hoffai symud ymlaen ac arbenigo mewn gofynion spa a Llongau Mordeithio, yn ogystal â salonau harddwch sy’n cynnig triniaethau newydd a chyfoes. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Steiner a sbaon a salonau lleol yn ein hardal leol, lle gallwn gynnig profiad gwaith sy’n rhoi cipolwg ar ragolygon gyrfa i’r dyfodol.
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cynnal:
- Triniaeth drydanol yr wyneb
- Tylino corff dull Sweden
- Therapi cerrig
- microdermabrasio
- Tylino Pen Indiaidd
- Triniaeth drydanol y corff
Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn, gweithio’n galed a chynnal asesiadau ymarferol ar gleient sy’n talu gan fod y salon yn sefydliad salon hyfforddi realistig. Bydd gofyn i chi wneud rhai oriau o leoliad gwaith fel rhan o'ch astudiaethau cwrs sy'n cyd-fynd â'ch cydbwysedd bywyd a gwaith.
You will be required to carry out some hours of work placement as part of your course studies suiting your work life balance.
Ar ôl cwblhau eich rhaglen Lefel 3, mae opsiwn i symud ymlaen i raglen Lefel 4, lle mae posibilrwydd i agor eich busnes eich hun, gwneud cais i weithio ar longau mordeithiau neu chwilio am waith arall yn y sector. Mae gan y coleg lawer o gysylltiadau y gallwn eich cyfeirio atynt ar ôl cwblhau'r cwrs.
Diploma NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch.
Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy’n talu, a dod â’ch cleient eich hun, lle bo angen, i gwblhau asesiadau ymarferol.
Fodd bynnag, os oes apwyntiadau allanol wedi’u trefnu, rhaid i’r cleientiaid hyn gael blaenoriaeth bob amser.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Colur dydd
- Dim tyllau corff
- Ni chaniateir gwisgo unrhyw emwaith ac eithrio modrwy briodas yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £198.
Er mwyn adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a fydd yn cael ei archebu gan ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion am sut i archebu eich gwisg, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, gan Bennaeth eich Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Mae’r pris tua £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.