City & Guilds City & Guilds Trin Gwallt Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Er mwyn dilyn y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt. Bydd dysgwyr nad oes ganddynt TGAU Mathemateg a Saesneg yn parhau i weithio tuag at gyflawni’r cymwysterau hyn.
Yn gryno
Dyma'r cwrs lefel nesaf sy’n mynd yn ddyfnach i mewn i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn driniwr gwallt llwyddiannus.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi’n caru popeth sy’n ymwneud â gwallt a harddwch
... Ydych chi wedi cwblhau’r cwrs trin gwallt Lefel 1
...Ydych chi am gael cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r sector trin gwallt yn symud yn gyflym a bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl eich hyfforddiant.
Byddwch yn dysgu am:
- Ymgynghoriadau cleient
- Sgiliau derbynfa
- Siampwio
- Chwyth-sychu
- Setting
- Lliwio
- Torri
- Pyrmio
- Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau
- Triniaethau gwallt/croen y pen.
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliadau gwaith - naill ai bob wythnos neu mewn bloc
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:
- Sgyrsiau diwydiant gan arbenigwyr ym maes trin gwallt
- Cystadlaethau mewnol a'r cyfle i roi cynnig ar Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
- Cyfweliadau diwydiant
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, profion ar-lein, portffolios, lleoliadau gwaith llwyddiannus ac adborth gan gleientiaid. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- NVQ Lefel 2 Trin Gwallt
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn dilyn y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt. Bydd dysgwyr nad oes ganddynt TGAU Mathemateg a Saesneg yn parhau i weithio tuag at gyflawni’r cymwysterau hyn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis uwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi i brynu a phecyn trin gwallt fel amod o’ch lle ar y cwrs. Y gost am hyn yw tua £70 - £96.
I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn talu am gost un wisg lawn bob blwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i’w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y darparwr priodol os/pan fydd angen.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0023AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr