• Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

... Hoffech weithio ar lefel goruchwylio

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gofal plant

... Hoffech symud ymlaen i radd mewn disgyblaeth gysylltiedig.

Mae hon yn rhaglen am ddwyflynedd, sydd fel arfer yn cynnwys3 diwrnod ar y campws a 2 ddiwrnod mewn lleoliad gwaith.

Byddwch angen cwblhau lleiafswm o 700 awr mewn lleoliad gwaith dros gyfnod o ddwy flynedd, wrth ddilyn elfennau damcaniaethol yn y coleg.

Bydd dysgwyr yn gwneud amrywiaeth o asesiadau yn ystod lleoliadau gwaith, ynghyd ag asesiadau mewnol ac allanol ar gyfer yr elfennau damcaniaethol.

Wedi i chi gwblhau'r cwrs byddwch wedi cyflawni:

  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 Craidd ac Ymarfer Theori
  • L2 CCPLD Craidd
  • Hylendid Bwyd
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig

Bydd disgwyl i chi ymrwymo i astudio am 5 diwrnod, ac mae hynny'n cynnwys dysgu'r elfen wybodaeth o'r cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer yr elfen gymhwystra o'r cymwysterau.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallech ystyried dilyn cyrsiau Addysg Uwch mewn meysydd cysylltiedig, neu swyddi fel gweithiwr gofal, gwarchodwr plant, neu nyrs feithrinfa.

I gael cychwyn y cwrs hwn, mae'n rhaid i chi gael o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.

Bydd dysgwyr Lefel 2 angen cwblhau rhaglen CCPLD Lefel 2 yn llwyddiannus, ac arddangos ymrwymiad a chynnydd mewn Sgiliau (Llythrennedd/Rhifedd).

Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS Manwl boddhaol cyn dechrau'r cwrs (ar eu cost eu hunain).

Rhaid i geisiadau DBS gael eu cynnal yng Coleg Gwent.

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFDI0584AA
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Friday

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFDI0584AA
Amser Dechrau
09:00
Hyd
2 years
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Friday

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0584AA
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFDI0584AA
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy