• Llawn Amser

Gradd Sylfaen Troseddeg

Foundation-Degree-Criminology
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus
Dyddiad Cychwyn
14 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ymarferol ac academaidd gryf yn agweddau gwahanol maes Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Os hoffech chi astudio trosedd a’r system cyfiawnder troseddol, mae’r rhaglen Gradd Sylfaen mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn berffaith i chi.

... Rydych chi’n dyheu am weithio ym meysydd trosedd, troseddeg a chyfiawnder troseddol
... Rydych chi’n gweithio’n dda dan bwysau
... Hoffech chi ennill sgiliau ymarferol a sgiliau damcaniaethol

Byddwch chi’n datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o theori ac ymarfer ym maes Troseddeg a byddwch yn deall cyd-destun cymdeithasol trosedd a sut mae’n cael ei reoli. Byddwch chi hefyd yn dysgu am sut mae asiantaethau’n gweithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Mae gennym ni gysylltiadau cryf ag asiantaethau cyfiawnder troseddol ac rydym yn cynnig modiwlau sy’n adlewyrchu natur gyfredol y pwnc hwn gan, yn aml, wahodd siaradwyr gwadd i siarad am eu gwaith. Yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddoli, gallwch hefyd gwblhau modiwl lleoliad gwaith a all eich helpu chi i ennill cyflogaeth ar ôl i chi raddio.

I sicrhau fod gennych chi ddealltwriaeth dda o faesydd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol byddwch chi’n astudio nifer o fodiwlau craidd gan ennill sgiliau ymarferol a sgiliau damcaniaethol.

Bydd y modiwlau yn debygol o gynnwys:

Blwyddyn 1

Y Tu Mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol

Archwilio Trosedd a Gwyrni

O Theori i Effaith: Ymchwil Hanfodol ym maes Troseddeg

Dadorchuddio Trosedd: Trosedd Cyfoes a Heriau

Amrywiaeth, Trosedd a Chyfiawnder

Y Tu Hwnt i’r Llyfrau: Y Byd Academaidd, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb ym maes Cyfiawnder Troseddol

Gwir Effaith Trosedd: Agored i niwed a dioddefwyr

 

Blwyddyn 2

Gwleidyddiaeth Plismona

O Dystiolaeth i Reithfarn: Ymchwilio i Drosedd

Ymchwilio Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Dadorchuddio Trosedd Treisgar

Y Tu Hwnt i Ffiniau: Trosedd Difrifol, Wedi’i Drefnu a Thrawswladol

Profiad Gwaith

I sicrhau bod eich dysgu yn berthnasol i’r gweithle, cewch enghreifftiau bywyd go iawn o faterion perthnasol. Er enghraifft, mewn un modiwl, byddwch chi’n gweithio ar achos oer byw mewn cydweithrediad â’r Brifysgol a’r heddlu.

Byddwch chi’n dysgu trwy ystod o ddulliau, fel arfer, cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Yn ystod cyfnodau hwyrach y cwrs, cewch gyfle i weithio ar brosiectau naill ai yn unigol neu mewn grwpiau.

Hefyd, caiff dysgu ymdrochol a gweithgareddau efelychiadol eu cynnwys yn rhan o’r rhaglen yn ogystal â siaradwyr gwadd a gwaith prosiect. Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu ac, er bod y rhan fwyaf o fodiwlau yn seiliedig ar waith cwrs, bydd rhywfaint o arholiadau. Bydd gwaith cwrs yn cynnwys prosiectau bywyd go iawn, traethodau, gwaith grŵp a chyflwyniadau.

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster gwerthfawr os hoffech chi ddilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y gwasanaethau carchar a diogelwch neu wasanaethau cymunedol neu gymdeithasol.

Gallwch chi hefyd symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs gradd BA (Anrh.) mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol De Cymru.

Ystyrir pob cais ar sail unigol.

Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.

Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.

Cyflwynir y cwrs hwn dros ddeuddydd ac mae’n rhyddfraint gan Brifysgol De Cymru (yn amodol ar ddilysiad).

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFDG0071AA
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Thursday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy