En

Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2026

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Ystyrir pob cais ar sail unigol.

Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau,  yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.

Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.

Yn gryno

Mae’r cwrs FdSc Astudiaethau Ceffylau yn cynnwys cymysgedd damcaniaethol ac ymarferol neilltuol o ddarlithiau sy’n astudio pob agwedd o’r ceffyl mewn perthynas â gofal, rheolaeth, bridio, cystadleuaeth a busnes.

 

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi am ennill cymhwyster a phrofiad gwerthfawr yn y diwydiant ceffylau

... Rydych chi eisiau cymysgedd astudio damcaniaethol ac ymarferol

... Mae gennych ddiddordeb ac angerdd brwd dros y diwydiant ceffylau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd nifer o fodiwlau gwyddoniaeth yn eich symud tuag at gyrsiau BSc ceffylau os ydych chi’n dymuno symud ymlaen ar ôl graddio’n llwyddiannus. Gan fod cyfleusterau ceffylau Campws Brynbuga hefyd yn cynnwys canolfan arholiadau BHS bydd y potensial i sefyll arholiadau BHS yn y coleg.

Byddwch yn cael eich dysgu trwy raglen gytbwys o ddarlithiau, seminarau, gweithdai, gwaith ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Gall dulliau asesu gymryd ffurfiau amrywiol fel traethodau, ymarferiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, adroddiadau labordy, taflenni gwaith, astudiaethau achos, adroddiadau ymarferol, portffolios, erthyglau cylchgrawn, gwe-dudalennau a phodlediadau.

Byddwch yn ennill Gradd Sylfaen sy’n cyfateb i’r ddwy flynedd gyntaf o astudio ar raglen radd (Lefel 4 a Lefel 5).

Ym mlwyddyn un y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yw:

  • Marchfeistrolaeth
  • Bridio a Bridfa
  • Busnes Ceffylau
  • Anatomeg Anifeiliaid Domestig a Ffisioleg
  • Sgiliau Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffylau

Ym mlwyddyn dau, ar ôl cwblhau blwyddyn un a phrofiad gwaith yn llwyddiannus, y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yw:

  • Glaswelltir Ceffylau a Rheoli Busnes
  • Rheoli Digwyddiadau Ceffylau a Cheffylaufeistrolaeth Uwch
  • Maeth Cymhwysol Ceffylau
  • Dulliau Ymchwil
  • Iechyd Milfeddygol
  • Taith Astudio a Diwydiant Ceffylau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae'r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg ddau ddiwrnod yr wythnos, ac mae disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r holl sesiynau. Mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau 20 awr o astudio ac ymchwil annibynnol yr wythnos. Yn ogystal â hyn, ceir modiwl lleoliad gwaith lle mae disgwyl i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliadau eu hunain ar gyfer y chwe wythnos gofynnol. Mae modd i diwtoriaid roi cymorth a chanllawiau os bydd angen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cynigir mynediad yn awtomatig i fyfyrwyr  sy’n cwblhau’r radd Sylfaen yn llwyddiannus i’r ail flwyddyn o raglen radd addas ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig mynediad i’r flwyddyn olaf o raglen radd addas i fyfyrwyr sy’n arddangos perfformiad da yn gyson

Bydd eich gradd mewn astudiaethau ceffylau yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa yn y canlynol:

  • Rheolaeth a goruchwyliaeth
  • Mentrau ceffylau
  • Rheolwr stablau
  • Hyfforddwr
  • Swyddog ymchwil maeth
  • Swyddog pasbort ceffyl
  • Arolygydd RSPCA

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn o dan fasnachfraint Prifysgol Aberystwyth.

Costau ychwanegol:

Blwyddyn 1

Ar gyfer Iechyd a Diogelwch bydd angen i chi brynu dillad ac esgidiau addas i weithio ar yr iard ar gyfer pethau ymarferol:

Het reidio (i safonau cyfredol BHS), esgidiau uchel, jodhpurs a menig (bydd y costau'n amrywio).   Bydd angen i chi hefyd brynu pecyn dyraniad a chôt labordy (tua £ 20 yr un).   Blwyddyn 2   Maeth ymarferol (tua £ 50)   Taith astudio (tua £ 250)
Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau?

UFDG0058AA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 22 Medi 2026

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr