Yn gryno
Byddwch yn dysgu am faterion iechyd cymunedol ac yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol i’w defnyddio gyda chleifion. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu cyffredinol, gweithio mewn tîm, rheoli amser a TG er mwyn gallu gweithio mewn ystod o leoliadau. Cynlluniwyd y cwrs hwn yn benodol i'ch helpu i symud ymlaen i gwrs ym maes iechyd yn y brifysgol megis nyrsio, bydwreigiaeth a gwyddoniaeth barafeddygol.
.. Ydych yn gweithio yn y sector iechyd a gofal ar hyn o bryd
... Hoffech ddatblygu eich gyrfa
... Ydych chi'n ystyried cwrs sy’n gysylltiedig ag iechyd yn y dyfodol
Blwyddyn Un: Gradd mewn Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol
- Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch - 20 credyd
- Ymchwilio i Iechyd a Lles - 20 credyd
- Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi - 20 credyd
- Datblygiad Proffesiynol 1 - 40 credyd
- Hanfodion Arwain a Rheoli mewn Ymarfer Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol - 20 credyd
Blwyddyn Dau: Gradd mewn Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol
- Lles mewn Cymunedau a Chymdeithas - 20 credyd
- Datblygiad Proffesiynol 2 - 40 credyd
- Cyfathrebu ac Ymyrraeth - 20 credyd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth Integredig - 20 credyd
- Cymhwyso Ymchwil i Waith - 20 credyd
Asesiad
Mae dulliau asesu yn dyblygu’r gweithgareddau hynny sydd eu hangen yn y gweithle megis ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau, datblygu posteri academaidd, ysgrifennu adfyfyriol, portffolios sy’n seiliedig ar waith, adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi achosion cymhleth a rheoli newid.
International applicants will need to have achieved an overall IELTS grade of 6.0 with a minimum score of 5.5 in each component.
Ar ôl y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen at gyflogaeth mewn swydd ymarferydd cynorthwyol mewn ystod o sefydliadau gofal iechyd, megis y GIG, prosiectau iechyd cymunedol, y sector preifat, gwaith adsefydlu neu ofal cymdeithasol. Gallwch hefyd symud ymlaen at radd BA llawn mewn Iechyd a Llesiant Cymunedol neu ymgeisio ar gyfer cwrs arall sy'n gysylltiedig ag iechyd megis; nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cymdeithasol.
Ystyrir pob cais ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.
Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.
Bydd angen i chi wneud profiad gwaith, gan fod hyn yn gysylltiedig â modiwlau craidd. Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Felly, mae'n hanfodol i ddysgwyr wneud cais am wiriad DBS fydd yn costio £55.00.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw 4A83
Efallai y byddwch angen llyfrau o'r rhestr ddarllen, fodd bynnag fe'ch anogir i ddefnyddio'r llyfrgell ac adnoddau ar-lein.
Yn Coleg Gwent, rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd mewn ymateb i batrymau newidiol o ran cyflogaeth a'r galw am sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig profiad dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ac i drafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r meddylfryd i’n myfyrwyr i lwyddo beth bynnag ddaw yfory. Eich dyfodol, diogel ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn ail-ddilysu cyrsiau yn rheolaidd er mwyn sicrhau ansawdd a gwelliant