Yn gryno
Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amrywiaeth o rolau sy’n gofyn am wybodaeth am y crefftau adeiladu amrywiol. Byddwch yn dysgu sgiliau a gwybodaeth adeiladu sylfaenol ac yn ymgymryd ag amrywiol weithgareddau ymarferol ac ar sail gwybodaeth.
Byddwch yn dysgu gwybodaeth a sgiliau adeiladu sylfaenol ac yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol a seiliedig-ar-wybodaeth amrywiol.
...rydych yn dymuno gweithio yn y diwydiant adeiladu
rydych yn mwynhau dysgu ymarferol
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag atgyweiriadau ar raddfa fach mewn crefftau amrywiol yn y sector adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:
- atgyweirio adeiladau (gwaith brics)
- atgyweiriadau paentio ac addurno
- atgyweiriadau plymio
- atgyweiriadau plymio
- atgyweiriadau saernïaeth
Cynhelir sesiynau ymarferol mewn gweithdai â chyfarpar llawn wedi’u cefnogi gan sesiynau damcaniaethol i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.
Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig ac ar ôl ei gwblhau byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Saesneg a Mathemateg
- Gweithgareddau Sgiliau
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun.
Mynediad i’r gweithle neu symud ymlaen i astudiaeth Lefel 3.
Isafswm o 4 TGAU gradd E neu uwch.