En

City & Guilds Diploma mewn Aml-Sgiliau (Gweithrediadau Cynnal a Chadw) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Lleiafswm o 4 Cymhwyster TGAU Gradd E neu uwch.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amrywiaeth o rolau sy’n gofyn am wybodaeth am y crefftau adeiladu amrywiol.

Byddwch yn dysgu sgiliau a gwybodaeth adeiladu sylfaenol ac yn ymgymryd ag amrywiol weithgareddau ymarferol ac ar sail gwybodaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych yn dymuno gweithio yn y diwydiant adeiladu

...rydych yn mwynhau dysgu ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin ag atgyweiriadau ar raddfa fach mewn crefftau amrywiol yn y sector adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:

  • atgyweirio adeiladau (gwaith brics)
  • atgyweiriadau paentio ac addurno
  • atgyweiriadau plastro
  • atgyweiriadau plymio
  • atgyweiriadau saernïaeth

Cynhelir sesiynau ymarferol mewn gweithdai gyda'r holl gyfarpar, a gefnogir gan sesiynau damcaniaethol i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.

Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw
  • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Saesneg a Mathemateg
  • Gweithgareddau Sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mynediad i’r gweithle neu symud ymlaen i astudiaeth Lefel 3.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Aml-Sgiliau (Gweithrediadau Cynnal a Chadw) Lefel 2?

NFDI0359AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr