Yn gryno
Mae hwn yn gwrs hwyliog a chreadigol sy'n cynnig cyfle i chi archwilio, datblygu, dylunio, addurno a gwneud eich serameg greadigol eich hun.
...Rhywun â diddordeb brwd ym maes seramig
... Rhywun ar lefel ganolradd
... Rhywun sydd â phrofiad ac eisiau ehangu eu sgiliau.
Bob wythnos, cewch gyfle i ehangu eich profiad o waith seramig trwy roi cynnig ar ystod o dechnegau megis adeiladu â llaw, Technegau Addurniadol, mowldio gwasg a thechnegau gwydro. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau trwy arddangosiadau a chyfarwyddiadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch chi eu datblygu ac adeiladu arnynt. Hefyd, bydd gennych chi gasgliad o ddarnau ar gyfer eich portffolio a gallwch chi fynd â nhw adref gyda chi.
Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi deimlo’n fwy hyderus a dylech chi allu defnyddio’r technegau a ddysgwyd yn ystod y cwrs i symud eich diddordeb ym maes seramig yn ei flaen.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
Tecstiliau
Seramig
Creu printiadau
Ffotograffiaeth
Argraffu 3D
Llesiant Creadigol ac Ymarfer y Celfyddydau
Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
Y Celfyddydau Perfformio
Canu Er Mwynhâd
Ysgrifennu Creadigol
Uwchgylchu Celfi a Chrefft
Creu Gemwaith
Darlunio Digidol gan ddefnyddio Procreate
Lansio Menter/Busnes Creadigol
Darperir yr holl offer yn ystod y cwrs hwn.