Yn gryno
Mae hwn yn gwrs hwyliog a chreadigol sy'n cynnig cyfle i chi archwilio a datblygu eich gwybodaeth o ffotograffiaeth ddigidol.
...Unigolion sy'n megis dechrau arni neu unigolion creadigol profiadol sydd â diddordeb brwd mewn ffotograffiaeth.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ddosbarth gyda'r nos. Bob wythnos, byddwch yn cael cyfle i ehangu eich profiad o ffotograffiaeth ddigidol. Byddwn yn archwilio gwahanol dechnegau o ffotograffiaeth, defnyddio ein stiwdio ffotograffig broffesiynol a dysgu sut i brosesu eich darlunio gan ddefnyddio rhaglenni Adobe CC (Photoshop, Bridge & Lightroom).
Erbyn diwedd y cwrs, dylech deimlo'n hyderus ac yn gallu defnyddio'r technegau a ddysgoch yn ystod y cwrs i ddatblygu'ch diddordeb mewn ffotograffiaeth.
I wneud y mwyaf o’r cwrs, bydd angen ichi fod â chamera SLR digidol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.