Yn gryno
Mae dyfarniadau ffurfiol yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer y rheiny sy'n dechrau yn y sector addysg yng Nghymru. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi i weithio yn y sector hyfforddi ac addysg ôl-orfodol (addysg i oedolion).
...rhai sydd yn gweithio fel hyfforddwr eisoes ac eisiau ennill cymhwyster ffurfiol
...ydych eisiau addysgu eraill a rhannu eich arbenigedd mewn pwnc penodol
...ydych eisiau gweithio ym maes addysg i oedolion, nid cynradd nac uwchradd
Os nad ydych wedi cwblhau gradd o'r blaen, byddwch yn dilyn y llwybr Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCE) (gweler y Gofynion Mynediad isod).
Os ydych yn raddedig, yna mae’r llwybr Tystysgrif Graddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) ar eich cyfer chi (gweler y Gofynion Mynediad isod).
Byddwch yn dysgu am y broses gyfan o baratoi, darparu a gwerthuso gwersi, o ysgrifennu cynllun gwers i ddulliau asesu. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu arfer da ac i ddatblygu eich sgiliau addysgu.
Modiwlau’r Cwrs:
Blwyddyn 1
· Cynllunio ar gyfer Dysgu
· Asesu ar gyfer Dysgu
· Datblygu Ymarfer Proffesiynol
Blwyddyn 2
· Ymchwil Seiliedig ar Ymarfer
· Llythrennedd ar gyfer Dysgu
· Ehangu Ymarfer Proffesiynol
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn cael eu harsylwi'n addysgu ar o leiaf pedwar achlysur gwahanol bob blwyddyn. Nid oes arholiadau ffurfiol.
Ar gyfer Tystysgrif Graddedig Broffesiynol mewn Addysg, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf radd yn y pwnc y maent yn dymuno ei ddysgu.
Rhaid i bob ymgeisydd fod mewn, neu sicrhau, lleoliad addysgu/hyfforddi ar gyfer pob blwyddyn astudio; mae tystiolaeth o 50 awr o addysgu a 20 awr o arsylwi yn ofynnol.
Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd disgwyl i chi roi cyflwyniad pum munud o hyd.
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich cymhwyso i addysgu mewn addysg broffesiynol nad yw’n orfodol yn eich pwnc dewisol.
Os hoffech barhau â’ch astudiaethau, gallwch fynd ymlaen i astudio MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (PCET) neu (AB), neu lwybrau/cyrsiau cysylltiedig eraill ym maes addysg.
Byddwch yn mynd i wersi yn y coleg yn rhan-amser yn ogystal ag addysgu mewn lleoliad addysg ôl-orfodol addas. Mae hyn yn cynnwys rhwng 150 a 200 awr o addysgu yn ystod bob blwyddyn y cwrs.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) £57.20. Gorfodol Y (oni bai bod y dysgwr yn meddu ar un yn barod).
Nid yw'r cwrs hwn yn berthnasol ar gyfer addysgu o fewn y sector cynradd neu uwchradd, ac nid yw'n rhoi Statws Athro/Athrawes Cymwys (SAC) wedi i chi ei orffen.