En

NCFE CACHE Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth a Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:15

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Yn dilyn ymlaen o gymhwyster Lefel 2, mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i helpu’r rhai mewn ysgol i ddeall pwysigrwydd y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud. Bydd disgwyl i chi, fel rhan o’r cwrs, gael profiad ymarferol mewn ysgol yn gweithio gyda’r Cyfnod Sylfaen neu Gyfnodau Allweddol 2-4 am o leiaf un diwrnod yr wythnos, fel gweithiwr neu wirfoddolwr – felly mae’n bwysig i chi drefnu eich lleoliad cyn cofrestru.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un mewn swydd gymorth mewn ysgol fel cynorthwyydd dysgu neu gynorthwyydd dysgu a chymorth, neu mewn swydd gymorth wirfoddol.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn gyflwyniad i unedau sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cefnogi dysgu ac addysgu. Gan gydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion wrth helpu plant i gyrraedd eu potensial, mae’r cwrs hwn yn cynnig cymorth er mwyn symud ymlaen a throsglwyddo ar draws gweithlu plant o fewn ysgolion.

Gofynion Mynediad

Bydd angen Tystysgrif Lefel 2 Cefnogi Addysgu a Dysgu Mewn Ysgolion arnoch chi er mwyn ymgymryd â’r cymhwyster hwn. Fodd bynnag os oes gennych chi brofiad sylweddol mewn lleoliad priodol, mae posibilrwydd o symud ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 3. Byddwn yn trafod hyn gyda chi yn y cyfweliad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych chi’n gweithio mewn swydd wirfoddol, bydd angen i chi gael gwiriad DBS drwy eich lleoliad.
Ble alla i astudio NCFE CACHE Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3?

CPCE0300AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr