En

RSL Diploma Atodol i Ymarferwyr Cerddoriaeth Lefel 3

Ceisiadau Amser Llawn


Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2024/25 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2025/26 yn agor ym mis Tachwedd 2024.



Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.

Yn gryno

Bydd yr Ysgol Roc Lefel 3, ar y cyd â chyfleusterau rhagorol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, yn cynnig profiad dysgu rhagorol i chi lle gallwch gael y wybodaeth a’r sgiliau penodol sydd eu hangen i gwrdd â gofynion y diwydiant cyffrous yma.  

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth
... Ydych eisiau’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol ar gyfer y diwydiant
... Yw eich bryd ar ddilyn cwrs cysylltiedig mewn prifysgol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r hyblygrwydd a’r ystod o unedau yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau perthnasol. Byddwch yn gallu cael cydnabyddiaeth o’ch cyraeddiadau trwy sgiliau cerddorol ymarferol ar y cyd â’ch astudiaeth seiliedig-ar-theori.

Blwyddyn 1

Diploma Atodol Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd

  • Perfformiadau cerddorol byw
  • Sgiliau ymarfer cerddoriaeth
  • Y cerddor sesiwn
  • Dilyniant a chynhyrchu cerddoriaeth
  • Rheoli digwyddiadau cerddorol
  • Iechyd a diogelwch mewn digwyddiadau cerddorol
  • Cyfansoddi

Blwyddyn 2

Diploma Estynedig Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd

  • Recordio sain mewn stiwdio
  • Peirianneg sain byw
  • Cynllunio ar gyfer gyrfa mewn cerddoriaeth
  • Traethawd cerdd estynedig
  • Perfformio cerddoriaeth wedi’i recordio
  • Hyrwyddo cerddoriaeth
  • Datblygiad technoleg recordio cerddoriaeth

Er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol, bydd gennych fynediad i stiwdio gyda chyfarpar digidol o’r radd flaenaf. Fe’ch anogir i gymryd rhan mewn digwyddiadau cerddorol niferus trwy gydol y DU.

Byddwch yn cael eich asesu trwy arholiadau, portffolio, gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol a byddwch yn cyflawni:

  • Diploma Atodol Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd (Blwyddyn 1)
  • Diploma Estynedig Lefel 3 RSL ar gyfer Ymarferwyr Cerdd (Blwyddyn 2)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod. 

Bydd angen i chi fod â diddordeb brwd mewn cerddoriaeth a’r brwdfrydedd a’r penderfyniad i ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunanysgogiad. Dylech hefyd feddu ar y brwdfrydedd a’r agwedd bositif y bydd darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun. Disgwylir i chi hefyd fynychu gymaint o ddigwyddiadau â phosibl a rhwydweithio gyda chymaint o bobl ag y gallwch. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gallech symud ymlaen i gwrs yn ymwneud â cherddoriaeth mewn prifysgol neu ddod o hyd i waith mewn meysydd megis sain byw, goleuo, AMP neu Dechnegydd Drymiau neu berfformio ar lefel led-broffesiynol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen gitâr neu gitâr fas eu hunain ar gitaryddion. Bydd angen gwifren gitâr a ffyn drymio ar bob myfyriwr.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio RSL Diploma Atodol i Ymarferwyr Cerddoriaeth Lefel 3?

EFBE0006AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr