• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig / Peirianneg Sifil Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau adeiladu ac yn sicrhau eich bod yn barod i ddilyn eich llwybr gyrfa o ddewis o fewn y diwydiant adeiladu ehangach. Mae cyfres Pearson yn cynnwys tri llwybr: Adeiladu, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.

...ydych chi am gael gyrfa yn y disgyblaethau adeiladu technegol, gan gynnwys arolygu, dylunio, ymgynghori, isadeiledd, gosod allan (setting out), rheoli prosiectau, mesur meintiau (quantity surveying) neu beirianneg gwasanaethau adeiladu.
Ydych yn dda am weithio fel rhan o dîm
Oes gennych ddiddordeb yn y theori y tu ôl i adeiladu a dyluniad yr amgylchedd adeiledig
…you have progressed from a trade, and would like to pursue a design based or management/consultancy role

Wrth ennill gwybodaeth fanwl am y diwydiant, byddwch yn paratoi at yrfa bosibl mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys (ond nid yn unig) Dylunio, ymgynghori, cynllunio gwasanaethau adeiladu, rheoli prosiectau, arolygu meintiau, peirianneg safleoedd a dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD). Mae Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith ar gael yn Coleg Gwent, gan greu llwybr dilyniant naturiol i'r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster NVQ sy’n seiliedig ar grefft.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa broffesiynol yn y maes adeiladu, dyma'r cwrs dilyniant delfrydol i chi. Gall y cwrs gynnwys cynllunio, cynaliadwyedd, dylunio a gweithio fel rhan o dîm ar y safle neu mewn swyddfa. Mae’n bennaf yn seiliedig ar theori, gan ddefnyddio rhaglenni diwydiant-safonol.

 

Gallwch ddewis dilyn un o dri llwybr:

1.Adeiladu

2. Peirianneg Sifil

3. Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn modiwlau craidd, a bydd modd newid llwybr.

Byddwch yn dilyn unedau craidd a dewisol, gan gynnwys:

  • Construction Design
  • Egwyddorion Adeiladu
  • Manylion Graffigol
  • Management
  • Primary Services in Buildings
  • Building Surveying
  • Iechyd a Diogelwch

Byddwch yn rhan o brosiectau rhyngbroffesiynol parhaus, gan ddefnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur (Computer-aided Design - CAD) a thechnegau lluniadu graffigol. Cewch eich asesu trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig a gwaith CAD.

 

Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Level 3 Foundation Diploma in Construction & Built Environment Construction/Civil Engineering or Building Service Engineering
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
    Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

I gyrchu'r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf gradd C mewn 5 TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu radd Teilyngdod mewn Diploma Lefel 2 priodol a gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf

Hefyd, bydd angen i chi feddu ar:

  • Ddiddordeb mewn adeiladau a'r gwneuthuriad trefol ehangach – nid yw adeiladu yn swydd sy'n gyfyngedig i oriau gwaith arferol, ond yn hytrach mae'n ffordd o fyw.
  • Y gallu i weithio dan bwysau yn unigol neu fel rhan o dîm er mwyn cwblhau aseiniadau yn ôl terfynau amser a manylebau llym.
  • Mae gafael resymol ar fathemateg yn ddymunol, gan fod llawer o'r modiwlau'n dibynnu ar egwyddorion mathemategol sylfaenol mewn cyd-destun adeiladu.

Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant.

Bydd cwblhau Blwyddyn 1 y Diploma Sylfaen yn llwyddiannus yn eich caniatáu i symud ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn yn eich llwybr dewisol. Os byddwch yn llwyddiannus, ceir cyfle i wneud cais am brentisiaethau ar gyfer yr ail flwyddyn. Mae llwybrau dilyniant wedyn yn cynnwys:

  • Gradd Sylfaen/Tystysgrif Genedlaethol Uwch/ Diploma Cenedlaethol Uwch neu gwrs gradd llawn naill ai yn Coleg Gwent neu brifysgol arall drwy UCAS
  • Prentisiaethau HNC/HND yn Coleg Gwent neu ymhellach i ffwrdd
  • Prentisiaethau Gradd

Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Er y caiff y cwrs hwn ei gyflwyno gan ganolbwyntio ar dechnoleg faterol a senarios bywyd go iawn, mae'r cwrs yn bennaf yn seiliedig ar ddamcaniaeth. Mae'n cynnwys asesiad dan reolaeth ac un arholiad i gyd-fynd â'r gwaith cwrs.

Byddwch yn elwa o gael mynediad at liniadur er mwyn i chi ymgyfarwyddo â'r broses Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur.

Bydd angen i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/ysgrifbinnau a defnyddiau ysgrifennu'n gyffredinol.

Female Construction student

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBE0025AA
Dull Astudio
Llawn Amser
Hyd
1 flwyddyn

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent - Glynebwy
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy