BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Busnes Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd busnes i’ch paratoi am yrfa neu i astudio busnes ymhellach.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ysbryd entrepreneuraidd a natur ragweithiol.
... Ydych eisiau gwella eich cyfleoedd am gyflogaeth yn y sector cyhoeddus ynghyd ag arbenigedd busnes.
... Oes gennych ddiddordeb mawr yn y byd busnes.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn cwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithle go iawn. Byddwch yn canolbwyntio ar faes pwnc penodol ac yn datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth arbenigol.
Byddwch yn astudio unedau craidd yn eich blwyddyn gyntaf, ac yna'n symud ymlaen at y Ddiploma Estynedig yn eich ail flwyddyn. Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau busnes, a fydd yn cael eu hasesu drwy gyfuniad o arholiadau allanol ac aseiniadau wedi’u hasesu’n fewnol.
Blwyddyn 1
Unedau gorfodol:
- Datblygu Ymgyrch Marchnata (arholiad)
- Cyllid Personol a Busnes (arholiad)
- Archwilio Busnes
- Rheoli Digwyddiad
Gall unedau dewisol gynnwys:
- Recriwtio a Dethol
- System Gyfreithiol Lloegr
- Marchnata Gweledol
Blwyddyn 2
Unedau gorfodol:
- Egwyddorion Rheoli (arholiad)
- Gwneud Penderfyniadau Busnes (arholiad)
- Busnes Rhyngwladol
Gall unedau dewisol gynnwys:
- Meithrin Tîm mewn Busnes
- Hyrwyddo Cynnyrch Creadigol
- Brandio
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cyflawni:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich cyfuniad o sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad, bydd angen i chi gael o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch arnoch gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster diploma Lefel 2 priodol ar radd teilyngdod gyda TGAU i gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd, Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus drwy aseiniadau ymarferol, asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a gwaith portffolio ac mae yna ddisgwyliadau i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig L3 llawn. Wedi hynny, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:
- Addysg Uwch mewn pynciau sy’n ymwneud â busnes, fel Gradd Sylfaen mewn Busnes yn Coleg Gwent
- Cyfleoedd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn ogystal â mewn meysydd arbenigedd busnes fel cyllid, adnoddau dynol, rheoli, marchnata neu yrfa arall sy’n gysylltiedig â busnes.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad bychan tuag at deithiau a gweithgareddau menter, a all gostio hyd at £50.00. Gall fod cost ychwanegol o £20 ar gyfer ffeiliau/cof bach.
Rydym yn cefnogi profiad gwaith yn unol â’r cwricwlwm.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFBE0011AB
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr