UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n ymgorffori modiwlau dawns, actio a chanu. Gallech hefyd brofi rhai o elfennau technegol perfformio, fel goleuo a chynllunio setiau.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y celfyddydau perfformiadol
... Ydych eisiau symud ymlaen i addysg uwch yn y celfyddydau perfformiadol
... Ydych yn berfformiwr hyderus a brwdfrydig
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o gyrhaeddiad ar lefel TGAU, neu o gwrs Lefel 2 perthnasol sy’n mwynhau:
- Gweithio fel rhan o grwp
- Canu
- Dawnsio
- Actio
Mae’r aseiniadau yn rhai ymarferol, â gwaith ysgrifenedig yn ategu’r sgiliau a ddatblygir gan fyfyrwyr celfyddydau perfformiadol. Bydd ymchwil i bynciau cyfredol, hanesyddol ac ymarferwyr yn helpu i lunio eich perfformiadau dyfeisiedig a chyfeiriedig.
Byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o berfformiadau yn ystod y flwyddyn fel rhan o’ch cwrs, megis:
- Dramâu
- Darnau dyfeisiedig
- Monologau
- Sioeau cerdd.
Mae’r cyfleusterau yn cynnwys theatr bwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns a man ymarfer. Mae myfyrwyr yn mynd ar dripiau rheolaidd i weld perfformiadau, gweithdai a siaradwyr.
Asesir y cwrs yma yn barhaus, trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiadau a phortffolios gwaith. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn cyflawni:
- Celfyddydau Perfformiadol Lefel 3
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i hybu eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Mae diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformiadol a pharodrwydd i ymarfer y tu allan i amser coleg yn hanfodol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau diploma 90-credyd Blwyddyn 1 yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn.
O’r fan honno, mae llwybrau cynnydd yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformiadol (ar gael ar Gampws Crosskeys)
- Cyrsiau gradd a HND mewn drama neu theatr gerdd
- Gwaith fel perfformiwr neu dechnegydd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae clyweliad yn ofynnol fel rhan o ofynion mynediad y cwrs.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0008AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr