NCFE Diploma mewn Teithio a Thwristiaeth Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Awyddus i lwyddo yn eich gyrfa? Mae’r byd i gyd o’ch blaen yn y sector teithio a thwristiaeth!
Bydd y cwrs hwn yn helpu i danio eich gyrfa, gan roi cyflwyniad uwch i chi i’r sectorau teithio, twristiaeth a lletygarwch.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Â diddordeb brwd yn y byd teithio a thwristiaeth
... Eisiau mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth a mynd i lefydd gyda’ch gyrfa
... Â diddordeb mewn hyfforddiant pellach i symud eich gyrfa ymlaen yn y sector teithio a thwristiaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer y diwydiant teithio a thwristiaeth, ynghyd â set fwy arbenigol o sgiliau i’ch gwneud chi’n fwy cyflogadwy.
Mae unedau’r cwrs yn cynnwys:
- Gwasanaeth cwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth
- Diwydiant teithio a thwristiaeth y DU
- Cyrchfannau teithio a thwristiaeth
- Lletygarwch mewn teithio a thwristiaeth
- Trefnu digwyddiad
- Profiad gwaith mewn teithio a thwristiaeth
- Cyflwyniad i deithiau tywys
- Gwybod am feysydd awyr a chwmnïau hedfan
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewn Teithio a Thwristiaeth
- Cymwysterau cefnogi priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych chi wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch chi angen:
- O leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch i gynnwys naill ai Mathemateg / Mathemateg Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf
- NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg / Rhifedd Mathemateg neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gallwch ennill cyflogaeth yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, neu symud ymlaen i’r lefel nesaf i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach:
- NCFE Lefel 3 Diploma Rhagarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth
- NCFE Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i ddysgwyr llawn amser brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £100.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0068AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr