En

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£540.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
34 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi feddu ar 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, mewn Iaith Gymraeg neu Iaith Saesneg a gradd B mewn Mathemateg, ynghyd â 3 gradd C arall (yn ddelfrydol mewn gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu eich bod chi wedi llwyddo i ennill cymhwyster Lefel 2 perthnasol gan ennill proffil Teilyngdod. Mae’r diploma yn gwrs dilyniant yn unig a bydd angen tystysgrif estynedig arnoch chi.

Yn gryno

Mae'r cwrs dwy flynedd hwn a gydnabyddir fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth yn arbenigol iawn a bydd yn rhoi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gwaith ym maes peirianneg drydanol ac electronig.

Dyma'r cwrs i chi os...

...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiannau trydanol ac electronig.

...y rhai hynny sy'n dymuno datblygu eu gyrfa bresennol a symud ymlaen i addysg uwch, gradd a rhaglenni datblygiad proffesiynol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd angen i chi gael dealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth i ddylunio cylchedau, adeiladu a chanfod diffygion, yn ogystal ag ymrwymiad llawn i fynychu a gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.

Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy/labordy, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr gwadd o'r diwydiant. Ymhlith y pynciau y byddwch yn ymdrin â nhw mae:

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Egwyddorion trydanol ac electronig
  • Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
  • Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
  • Technoleg drydanol
  • Gosod trydan
  • Canfod diffygion electronig
  • Moduron a gyrwyr tri cham
  • Prosiect peirianneg
  • Dewis a defnyddio rheolyddion rhaglenadwy

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau (a fydd yn cael eu graddio ar lefel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth), adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio cyn ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (120 credyd), y gallech wedi hynny fynd ymlaen i HNC Peirianneg Drydanol/Electronig yn Coleg Gwent neu gyrsiau eraill ar lefel prifysgol, Prentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth sy’n ymwneud â dylunio cylchedau, adeiladu a diagnosio diffygion. Hefyd, bydd yn rhaid i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol a gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm.

Bydd angen i chi feddu ar 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, mewn Iaith Gymraeg neu Iaith Saesneg a gradd B mewn Mathemateg, ynghyd â 3 gradd C arall (yn ddelfrydol mewn gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu eich bod chi wedi llwyddo i ennill cymhwyster Lefel 2 perthnasol gan ennill proffil Teilyngdod. Mae’r cwrs hwn yn gwrs dilyniant yn unig a’r gofyniad mynediad yw Tystysgrif Estynedig.

Beth sy'n digwydd nesaf?

HNC Peirianneg Drydanol/Electronig yng Ngholeg Gwent neu lefel prifysgol arall, astudiwch Brentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunain, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cwmpawd, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig Lefel 3?

CPBD0017AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr