• Llawn Amser
  • Lefel 2

City & Guilds Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Lefel
2

Yn gryno

O gwn i adar, gecoaid i dsintsilas, a defaid i fulod.. os ydych yn caru anifeiliaid, Coleg Gwent yw’r lle i chi!

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para blwyddyn, a byddwch yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid bach, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Cewch gyfle i arbenigo mewn llwybrau fferm, amaethyddol a chefn gwlad; llwybr anifeiliaid bach; neu lwybr tacluso a gofal. Felly, waeth beth yw eich diddordeb, mae llwybr ar gael ar eich cyfer chi.

.. Mae gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid fferm ac amaethyddiaeth, anifeiliaid bach, tacluso ac ymddygiad

... Rydych eisiau cael profiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid

... Rydych eisiau cyfuniad o astudio yn y dosbarth a gwaith ymarferol

.. Rydych eisiau gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid

...Rydych yn caru anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid mawr a bach!

Mae hwn yn gwrs academaidd, sy’n cael ei gefnogi gan waith ymarferol rhesymol ag anifeiliaid.

Er enghraifft, byddwch yn edrych ar:

  • Sgiliau ystadau
  • Llety anifeiliaid
  • Bwydo anifeiliaid
  • Iechyd anifeiliaid
  • Bioleg
  • Profiad Gwaith
  • Ymddygiad anifeiliaid

Cewch hefyd gyfle i weithio gydag offer a pheiriannau, yn cynnwys gyrru tractor ar y fferm a gwaith cynnal a chadw sylfaenol, megis ffensio ac atgyweirio gwrychoedd, ac offer tacluso, i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio gydag anifeiliaid.

Yn ystod y sesiynau ymarferol, byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ar gampws Brynbuga, lle ceir ystod o anifeiliaid o ffuredau a gwiwerod rhesog, i nadroedd a phryfed cop. Byddwch hefyd yn gweithio gyda’r defaid a’r gwartheg yn Fferm Rhadyr, a cheffylau yn y Ganolfan Geffylau ar Gampws Brynbuga.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig i ddangos eich cymhwystra a’ch dealltwriaeth, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
  • Mathemateg a Saesneg (os nad yw eisoes wedi'i gyflawni ar radd C neu'n uwch)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

I wneud cais am y cwrs hwn, byddwch angen

  • lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
  • Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol (yn cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)

Mae ymrwymiad llawn i gyfraniad a phresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, parch at anifeiliaid â'r gallu i gymell eich hun.

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn yr holl sesiynau ymarferol gydag anifeiliaid a chyflwyno eich holl aseiniadau ar amser. Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cymhwyso hyd at lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid. Y cam nesaf yw Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid (gyda Gwyddoniaeth), neu gallwch chwilio am gyflogaeth yn y diwydiannau cysylltiedig, megis parlyrau tacluso, siopau anifeiliaid, practisau milfeddygol, cathdai, ffermydd a chynelau cwn.

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:

  • Naill ai lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)
  • Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol (yn cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)

Cyn dechrau’r cwrs a gallu gweithio gyda’r anifeiliaid byddwch angen brechiad tetanws diweddar.

Ar gyfer Iechyd a Diogelwch, byddwch hefyd angen prynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys:

  • cot labordy glas tywyll
  • welingtons dur trwm
  • oferôls glas tywyll
  • bag i gario eich PPE

Bydd yn costio oddeutu £40 i brynu’r offer, a dylid gwneud hynny cyn dechrau eich cwrs.

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UFBD0004BA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy