Yn gryno
Mae’r cymhwyster (TAG) UG a Safon Uwch CBAC mewn Technoleg Ddigidol yn hybu dealltwriaeth dysgwyr o’r technolegau digidol a ddefnyddir gan unigolion a sefydliadau ar draws y byd, gan gynnwys sut maent wedi datblygu a sut maent yn newid o hyd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae arloesiadau mewn technoleg ddigidol, a’r lefelau cynyddol o gysylltedd rhyngddynt, yn effeithio ar fywydau’r rheini sydd yn eu defnyddio a’r gymdeithas ehangach.
...ydych am gyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
...ydych am ddatblygu eich sgiliau ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth mewn gyrfa sy'n defnyddio technolegau digidol neu i raglen addysg uwch sy'n cynnwys technolegau digidol
... ydych chi'n mwynhau bod yn greadigol
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddatblygu cynhyrchion digidol creadigol ac atebion digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau heddiw. Gall y rheini sydd wedi astudio TGAU Technoleg Ddigidol CBAC neu'r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau newydd yn y maes pwnc hwn gymryd y cymhwyster.
Lefel UG:
Uned 1 - Arloesedd mewn Technoleg Ddigidol
Uned 2 - Arferion Digidol Creadigol
Lefel A:
Uned 3 - Rhwydweithiau Systemau Cysylltiedig, Seiberddiogelwch a Thechnoleg Ddigidol
Uned 4 - Atebion Digidol
Mae'r asesiad yn seiliedig ar dasgau gwaith cwrs ymarferol gan gynnwys chwarae gemau ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U2.
Cynghorir o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg Gradd B, Saesneg Gradd B
- Gyrfaoedd mewn meysydd cysylltiedig
- Astudio ar lefel Prifysgol
Cynghorir o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg Gradd B, Saesneg Gradd B