Yn gryno
Mae'r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Safon Uwch newydd yn cynnig profiad dysgu cyfannol, gyda'r cyfle i ddysgu am ddatblygiad a gofal unigolion trwy gydol eu hoes o genhedlu hyd at fod yn oedolion hyn.
...ydych eisiau gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
...ydych eisiau ennill gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol
...hoffech ddilyn llwybrau Safon Uwch Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, y Gyfraith neu Ddyniaethau
Ar y cymhwyster poblogaidd hwn, byddwch yn astudio pedair uned ac yn cael eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau allanol.
Gallai’r unedau gynnwys:
- Hyrwyddo gofal a chyfathrebu o safon
- Hyrwyddo iechyd a lles da
- Cefnogi iechyd, lles a gwydnwch yng Nghymru
- Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
- Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad plant a phobl ifanc
- Cefnogi oedolion i gynnal eu hiechyd, eu lles a’u gwydnwch
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol UG/U Lefel 3 - manyleb newydd CBAC
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen addas ar gyfer cyflogaeth yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyd-destun mwy cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn y brifysgol.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd