Yn gryno
Mae hwn yn gwrs hynod ddifyr ac ymgysylltiol i ddatblygu'ch sgiliau celf a chreadigol presennol.
... Ydych wrth eich bodd yn bod yn greadigol
... Oes gennych lefel sylfaenol o dechneg mewn celf yr enillasoch ar lefel TGAU
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
… Mae gennych ddiddordeb mewn dilyn y Llwybr Celfyddydau Creadigol neu’r Llwybr Dylunio a’r Cyfryngau canlynol
Celf Lefel UG
Byddwch yn treulio hanner cyntaf y flwyddyn yn datblygu'ch sgiliau presennol ac adeiladu ar dechnegau a'r wybodaeth yr enillasoch ar lefel TGAU. Byddwn hefyd yn eich herio chi i ennill sgiliau newydd, gweithio trwy broses ddylunio sy'n mynd i'r afael â meini prawf a dadansoddi artistiaid a gwaith celf.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn o arbrofi, byddwch wedi ennill digon o wybodaeth a gallu i weithio ar eich Ymholiad Creadigol Personol (PCE) eich hun. Mae'r uned hon o waith yn seiliedig ar friff gweithio/man cychwyn a drafodir gyda'ch tiwtor. Bydd gofyn i chi gynhyrchu corff o waith o ansawdd dda ar daflenni dylunio, sy'n dilyn meini prawf yn drylwyr a rhesymegol, a fydd yn arwain at gyflwyno gwaith sydd â dealltwriaeth dda o artistiaid a gwaith celf, yn ogystal â phlethu eich syniadau/cysyniadau eich hun.
Celf Lefel U
Gan adeiladu ar y sgiliau y datblygasoch yn eich blwyddyn astudio gyntaf, bydd gofyn i chi gyflawni prosiect PCE arall o Fedi i Ionawr ar thema sydd o ddiddordeb i chi. Eto, bydd hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfres o daflenni dylunio neu lyfr braslunio o'r astudiaethau fel newyddiadur o waith yn dogfennu syniadau sy'n gwireddu eich syniadau/cysyniadau yn llwyr.
Yn ystod ail hanner y flwyddyn, o Chwefror i Fai, byddwch yn gweithio ar elfen reoledig. Bydd y gwaith hwn yn cael ei osod yn allanol drwy CBAC.
Cewch eich asesu trwy gydol y flwyddyn academaidd drwy asesiad ffurfiol sydd wedi'i fewnosod yn rhan o'r cwrs. Bydd tasgau gwaith cartref a gwaith wedi'i gwblhau hefyd yn cael eu hasesu a'u recordio'n rheolaidd, felly bydd gennych bob cyfle i ddatblygu'ch gwaith fel unigolyn. Bydd adborth anffurfiol yn cael ei gofnodi mewn sesiynau dosbarth a'u rhannu gyda chi a'r aelod o staff addysgu perthnasol, fel y gellir mapio cofnod asesu a chynnydd manwl gywir yn unol â hynny. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Celf Lefel UG
- Celf Lefel U
Bydd gennych gyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr Creadigol gyda phrifysgolion dethol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymweliadau cyfoethogi i Orielau lleol ac Orielau Celf Llundain a fydd yn hyrwyddo eich diddordeb, ymgysylltiad a dealltwriaeth o fewn y pwnc creadigol hwn.
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Celf, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Gall myfyrwyr Lefel UG barhau i ddatblygu yn ail flwyddyn y cwrs er mwyn ennill Lefel U cyfan yn y pwnc hwn. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Lefel A llawn, gall myfyrwyr barhau i ddatblygu eu diddordeb mewn celf drwy astudio Gradd Sylfaen yn y coleg neu gyrsiau prifysgol eraill.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Celf, Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae ffi stiwdio o £10.00, y mae'n rhaid ei dalu wrth ymrestru. Bydd disgwyl i chi hefyd brynu pecyn celf.