Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag archwilio Addysg Gorfforol ac yn eich helpu chi i wella'ch perfformiad eich hun
... Ydych wrth eich bodd yn bod yn actif
... Ydych yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon
... Ydych am gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i 2 uned:
Uned 1 - Archwilio Addysg Gorfforol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud, 24% o'r cymhwyster Lefel U (60% o'r cymhwyster Lefel UG)
- Ffisioleg ymarfer corff, dadansoddi perfformiad a hyfforddiant
- Seicoleg chwaraeon
- Caffael sgiliau
- Chwaraeon a'r gymdeithas
Uned 2 - Gwella perfformiad personol mewn Addysg Gorfforol
Asesiad heb arholiad, 16% o'r cymhwyster Lefel A (40% o'r cymhwyster Lefel UG).
- Perfformiad ymarferol mewn un gweithgaredd fel chwaraewr/perfformiwr ac fel hyfforddwr neu swyddog
- Proffil perfformiad personol
Asesir drwy dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad yn y flwyddyn UG ac U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Addysg Gorfforol Lefel UG
- Addysg Gorfforol Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
I ymrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gradd B mewn Ymarfer Corff.
Dylech fod yn cymryd rhan reolaidd mewn o leiaf un math o chwaraeon ar lefel clwb a phan fo’n bosib, dylech fod yn chwarae i goleg os yw’r chwaraeon hwnnw’n cael ei gynnig.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gellir defnyddio Addysg Gorfforol Lefel UG fel cymhwyster 'annibynnol', er mwyn ehangu'ch ystod o bynciau ar Lefel UG neu bynciau galwedigaethol, neu gallwch barhau i Lefel U. Gall cwblhau cymhwyster Lefel A yn llwyddiannus arwain at gyrsiau prifysgol mewn pynciau megis Gwyddor Chwaraeon, Astudiaethau Chwaraeon a Ffisiotherapi. Mae Addysg Gorfforol Lefel UG ac U yn darparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon ac addysgu.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a gradd B mewn Addysg Gorfforol