En

CBAC Cemeg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf 5 TGAU, gradd C neu uwch gan gynnwys gradd B mewn Cemeg neu radd BB mewn Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl). Hefyd, bydd angen TGAU Rhifedd, gradd B.

Yn gryno

Mae cwrs Safon Uwch Cemeg CBAC yn cynnig cwrs astudio eang, cydlynol a gwerth chweil. Mae astudio ar y cwrs Safon Uwch Cemeg hwn yn annog dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o feysydd gwahanol y pwnc a sut maent yn ymwneud â’i gilydd yn ogystal â datblygu a dangos gwerthfawrogiad dwys o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau gwyddonol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...os hoffech chi ddilyn y Llwybr Meddygaeth neu’r Llwybr Mathemateg, Ffiseg neu Gyfrifiadureg

...Os oes awydd arnoch chi wybod am Gemeg

...Os ydych chi’n mwynhau dysgu am Wyddoniaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Blwyddyn 1 - Lefel UG

  • Uned 1: Iaith Cemeg, Strwythur Mater ac Adweithiau Syml.
    Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (80 marc)
  • Uned 2: Egni, Cyfradd a Chemeg Cyfansoddion Carbon.
    Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud (80 marc)

Blwyddyn 2 - Lefel U

  • Uned 3: Cemeg Ffisegol ac Anorganig.
    Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (80 marc)
  • Uned 4: Cemeg Organig a Dadansoddi.
    Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud (80 marc)
  • Uned 5: Ymarferol (60 marc)

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys dwy uned yn y flwyddyn gyntaf gyda thasgau ymarferol gorfodol sy'n cael eu harholi mewn dau bapur damcaniaeth. Yn yr ail flwyddyn, mae tair uned arall, sy'n cael eu harholi mewn dau bapur damcaniaeth, a thasgau ymarferol gorfodol sy'n cael eu harholi mewn arholiad ymarferol. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Cemeg Lefel UG
  • Cemeg Lefel U
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Cynigir amrywiaeth eang o gyrsiau paratoi mewn Meddygaeth i gefnogi myfyrwyr Llwybr Iechyd a Meddygaeth ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent:

  • Taith i Ysbyty Brenhinol Gwent ar gyfer dosbarthiadau meistr a darlithoedd gan ystod o feddygon ar gyfnodau gwahanol yn eu gyrfaoedd
  • Cymorth o ran trefnu lleoliadau profiad gwaith lleol ym maes gofal iechyd
  • Cyngor ac arweiniad gan ein mentor meddygaeth, yr Athro Paul Edwards
  • Rhaglen fentora Meddygaeth gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae hon yn rhaglen sy’n unigryw i Barth Dysgu Blaenau Gwent lle caiff mentor unigol (myfyriwr israddedig sy’n astudio Meddygaeth ar hyn o bryd) ei neilltuo i ddysgwyr a bydd yn cynnig cymorth a chyngor o ran y broses cyflwyno cais. Hefyd, mae cynadleddau ar-lein a chyfleoedd profiad gwaith ar gael trwy’r rhaglen hon.
  • Cymorth paratoi am gyfweliadau gan WAAMS a Dr Sue Emerson, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
  • Ffug gyfweliadau mewnol a chymorth ar gyfer ysgrifennu datganiadau personol meddygaeth a gyflwynir gan Dr Kate Hanford a Steph Werret, Cydlynydd Seren.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I astudio ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU, gradd C neu uwch gan gynnwys gradd B mewn Cemeg neu radd BB mewn Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl). Hefyd, bydd angen TGAU Rhifedd, gradd B.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Nid yn unig yw'r camau nesaf yn cynnwys y cyrsiau Cemeg a Bioleg amlwg, ond hefyd Meddygaeth, Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Gwyddor Filfeddygol, Gwyddorau Bwyd, Gwyddorau'r Byd, Peirianneg, Gwyddor Fforensig a Gwyddor Amgylcheddol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nodyn cynghori: rydym yn argymell bod Cemeg
lefel A yn cael ei hastudio ynghyd â Gwyddoniaeth
arall lefel A (yn unol â chanllawiau CBAC).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Cemeg UG Lefel 3?

EFAS0109A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr