En

AQA Safon Uwch Athroniaeth Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Saesneg a Mathemateg ac un pwnc dyniaethau, megis Hanes neu Addysg Grefyddol.

Yn gryno

Mae Safon Uwch Athroniaeth yn gwrs unigryw a heriol sy'n archwilio pedwar o feysydd unigryw syniadaeth athronyddol. Yn y pwnc, byddwch yn ystyried natur realiti, yn mynd i'r afael â'r athroniaeth foesol a'r cysyniad o 'ddaioni', ac yn ystyried - o safbwynt seciwlar - tarddiad a phwrpas y bydysawd. Byddwch yn ymdrin â'r meddylwyr mwyaf blaenllaw yn hanes dynoliaeth, yn ogystal â thrafod damcaniaethau arloesol ynghylch ymwybyddiaeth a rhyddid pobl.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych yn un sy'n gofyn, ac yn ceisio ateb, cwestiynau hanfodol, megis:

  • Beth yw gwybodaeth?
  • Ydyn ni'n gweld y byd fel y mae, neu ydy'r ffordd rydyn ni'n gweld y byd yn gamarweiniol?
  • Ydy Duw'n bodoli a beth yw problem drygioni?
  • Beth yw natur meddwl ac ydy hi'n bosib esbonio'r meddyliol mewn termau ffisegol yn unig?
  • Beth yw 'daioni' yn nhermau moesoldeb, a beth yw natur iaith foesol?

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu'n bedair rhan:

  • Epistemoleg (Theori Gwybodaeth)
  • Athroniaeth Foesol
  • Metaffiseg Duw
  • Metaffiseg Meddwl

Ym mhob un o'r meysydd hyn, byddwch yn ymdrin â thestunau a syniadau rhai o'r meddyliau mwyaf blaenllaw yn hanes, i'ch helpu i fynd i'r afael â'r cwestiynau uchod a llawer iawn mwy. Bydd eich astudiaethau'n cynnwys ymdrin â thestunau gosod, trafodaethau tanbaid ac ysgrifennu traethodau.

Cwrs Safon Uwch llinellol yw'r cwrs hwn. Ni fydd arholiad Safon UG ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Byddwch yn cael eich asesu drwy ddau bapur tair awr.

Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Safon Uwch Athroniaeth

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd arnoch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Gradd B mewn Saesneg a Mathemateg ac un pwnc dyniaethau, megis Hanes neu Addysg Grefyddol.

Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau â'ch astudiaethau a'ch darllen ehangach yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae Athroniaeth yn bwnc Safon Uwch heriol ac uchel ei barch. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ystyried y pwnc yn un heriol o safbwynt academaidd ac yn bwnc tu hwnt o ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau gradd a llwybrau cyflogaeth. Mae Athroniaeth yn bwnc defnyddiol ar gyfer rhai sy'n ystyried gyrfa mewn meysydd megis moeseg (meddygol, llunio polisïau etc), y gyfraith, llywodraeth, gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, busnes, y byd academaidd ac addysg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os yw'n bosib, byddwn yn darparu copïau o destunau gosod priodol i fyfyrwyr. Mae dau werslyfr cysylltiedig â'r cwrs y byddem yn cynghori myfyrwyr i'w prynu. Yn ogystal, bydd cyfleoedd yn codi i gymryd rhan mewn gweminarau, darlithoedd a sgyrsiau athroniaeth, a digwyddiadau eraill a ystyrir yn berthnasol i'r ddisgyblaeth

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AQA Safon Uwch Athroniaeth Lefel 3?

PFAL0191Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr