Dulliau astudio a chyflwyno
Mae pawb yn dysgu’n wahanol – dyna pam ein bod ni'n cynnig sawl dull hyblyg o gyflwyno addysg, er mwyn cyd-fynd â'ch ffordd o fyw, ymrwymiadau yn y gwaith, a nodau.
P'un a ydych am gael y strwythur sy'n dod ag astudio'n llawn-amser, yr hyblygrwydd o ddysgu'n rhan-amser, neu'r cyfle i ennill cymwysterau wrth weithio, gallwch ddewis yr opsiwn gorau i chi. Darganfyddwch ein dulliau isod er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau o gymryd eich cam nesaf.
Dulliau o gyflwyno
Dysgwch ar y campws gydag amserlen o sesiynau rheolaidd a llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid. Y ffordd gyflymaf o ennill eich cymhwyster yw hon, ac mae'n rhoi strwythur clir i chi - perffaith os ydych yn symud ymlaen o'r ysgol neu'n barod i ddechrau ar lechen lân wrth newid gyrfa.
Mae modd astudio ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill, gyda dosbarthiadau sy'n cael eu cynnal yn bennaf yn ystod y dydd, fel arfer un neu ddau ddiwrnod yr wythnos. Delfrydol os ydych chi am gael hyblygrwydd heb astudio gyda'r nos.
Dysgwch y tu alla i oriau gweithio arferol gyda dosbarthiadau nos a gynhelir yn aml unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Perffaith os ydych chi'n gweithio (neu os oes gennych chi gyfrifoldebau eraill) yn ystod y dydd.
Cyfle i ennill cymwysterau wrth weithio, gydag addysgu ac asesiadau'n cael eu cynnal o fewn eich gweithle. Ffordd ymarferol o uwchsgilio heb angen gadael eich swydd.
Astudiwch yn annibynnol ar eich cyflymder eich hun, gyda deunyddiau dysgu ar gael ar-lein neu wedi'u hargraffu. Mae'r opsiwn yma yn gwarantu cymaint o hyblygrwydd â phosib er mwyn i'ch astudiaethau gyd-fynd â'ch ffordd o fyw.
Cwblhewch eich cwrs yn hollol ar-lein, gan gael mynediad at adnoddau, aseiniadau a chymorth gan diwtoriaid dros blatfform dysgu digidol – heb angen teithio i'r campws.
Ymunwch â dosbarthiadau yn fyw ar-lein a drefnwyd ymlaen llaw gyda'ch tiwtoriaid a chyd-ddysgwyr. Byddwch yn rhyngweithio'n gydamserol fel petaech mewn ystafell ddosbarth, ond o gysur eich cartref.
Cymysgedd o sesiynau a gynhelir ar y campws a dysgu ar-lein. Mae'r dull hyblyg hwn yn cyfuno'r gorau o'r ddau fyd - dysgu wyneb yn wyneb ac adnoddau digidol.