Sut i Wneud Cais
Addysg Uwch
                    
                
                Sut i wneud cais ar gyfer cwrs addysg uwch mewn 6 cham hawdd
Sut i wneud cais ar gyfer cwrs addysg uwch mewn 6 cham hawdd
Ymgeisio Ar-lein
Dechreuwch drwy ddod o hyd i gwrs sydd at eich dant ar ein gwefan. Gallwch wneud cais ar gyfer un cwrs Addysg Uwch ar y tro, felly dewiswch yr un sydd mwyaf addas i chi a chliciwch ar ymgeisiwch.
Mae'r broses ymgeisio yn cymryd rhai munudau yn unig ac mae ganddi bum cam sydyn. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol fel ein bod yn gallu rhannu diweddariadau pwysig gyda chi.
Llenwch bob adran, yna cliciwch ar 'cyflwyno' unwaith eich bod chi'n barod.
Angen help llaw? Gallwch ffonio, anfon e-bost neu gael sgwrs ar-lein gyda'n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar:
Sgwrs fyw ar ein gwefan
                                    Cynnig Amodol
Byddwn yn gwirio eich cymwysiadau (a phrofiad gwaith lle bo hynny’n berthnasol) ac yna anfonwn gynnig atoch chi drwy e-bost os ydych yn bodloni'r meini prawf mynediad. Gweler holl fanylion y meini prawf mynediad ar dudalen pob cwrs.
                                    Derbyn Eich Cynnig
Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.
                                    Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr
Gellir cael gwybodaeth a chanllawiau am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau AU yn yr adran Addysg Uwch – Cymorth Ariannol ar ein gwefan.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael i chi ac i ymgeisio amdano, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Os ydych chi'n ddysgwr sy'n byw yn Lloegr ar hyn o bryd, dewiswch Student Finance England. Wrth ymgeisio am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr, dewiswch eich modd o bresenoldeb, h.y. llawn-amser neu ran-amser. Dewiswch y brifysgol ddyfarnu (gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar dudalen y cwrs ar ein gwefan), yna rhowch Coleg Gwent fel y campws.
Enghraifft: Os ydych chi am astudio Gradd Sylfaen mewn Dylunio, byddech yn dewis Prifysgol De Cymruac yna Coleg Gwent.
                                    Cofrestru
Mae’r adeg gofrestru yn digwydd yn gynnar ym mis Medi. Mae'r rhan fwyaf o gampysau'n cynnal cofrestru ar-lein ond mae rhai cyrsiau yn gofyn i chi gofrestru wyneb yn wyneb ar y campws. Byddwn yn anfon manylion y cwrs atoch tuag at ddiwedd mis Awst. Cadwch lygad am hyn a dilynwch y canllawiau a ddarperir.
                                    Dechrau yn y coleg
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael neges e-bost yn eich cyfrif e-bost coleg a fydd yn eich hysbysu am y dyddiad dechrau a rhoi canllawiau am sut i gyrchu eich amserlen unwaith ei bod ar gael. Bydd hon ar gael ar ap y myfyrwyr, sef CG Connect.