Partneriaethau â Chyflogwyr

Partneriaethau a Chydweithio
Mae ein partneriaethau â chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wrth wraidd yr hyn a wnawn. Maent yn helpu ein myfyrwyr i archwilio nodau gyrfa, datblygu'r sgiliau a’r wybodaeth briodol, a phontio'n effeithiol o’r byd addysg i'w sector o ddewis.
Rydym wedi gweithio gyda sawl cyflogwr dros y blynyddoedd, ac mae'r partneriaethau hyn wedi cael effaith wirioneddol ar gymunedau lleol. Gyda'n gilydd, rydym wedi sbarduno cydweithredu ac arloesi, creu cyfleoedd ariannu, a chryfhau'r economi leol a rhanbarthol.
Trwy feithrin perthnasoedd cryf â chyflogwyr, gallwn sicrhau fod ein cwricwlwm yn cydweddu'n agos â gwaith byd go iawn a gofynion sgiliau’r dyfodol. Rydym bob amser yn chwilio i sefydlu partneriaethau newydd er mwyn ehangu'r hyn y mae'r coleg yn ei gynnig, cyrraedd dysgwyr newydd, archwilio dulliau darpariaeth newydd, a dod â chyflogwyr at ei gilydd am gyfleoedd i rwydweithio gan wneud Coleg Gwent y partner o ddewis.
Dewch i ni weithio gyda’n gilydd
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch baru â Coleg Gwent:
- Profiad Gwaith a Lleoliadau
- Digwyddiadau Gyrfaoedd, Dyddiau Blasu a Chyfleoedd Recriwtio
- Darlithwyr Gwadd, Darparu Gweithdai, Dosbarthiadau Meistr
- Ymweliadau â Safleoedd a Chwmnïau
- Briffiau Byw a Chomisiynau
- Mentora Myfyrwyr a Chodi Dyheadau
- Creu a Chyd-Ddylunio'r Cwricwlwm
- Cyfleoedd Noddi
Yr addewid
Siapio sgiliau cyfredol a’r dyfodol. Unigolion ysbrydoledig. Archwilio gweithlu’r dyfodol.
Yn Coleg Gwent, cydnabyddwn y rôl hanfodol y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu'r dyfodol a chefnogi'r economi ranbarthol. Fel darparwr addysg bellach mwyaf rhanbarth Gwent sy'n meddu ar gampysau yng Nghasnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chaerffili, rydym yn ymrwymedig i feithrin cysylltiadau cryf â busnesau a rhanddeiliaid lleol.
Nod ein Haddewid Partneriaeth yw cryfhau'r cysylltiadau hyn drwy greu cyfleoedd i gydweithio a fydd yn dyrchafu canlyniadau myfyrwyr gan fynd i'r afael ag anghenion sgiliau rhanbarthol. Drwy ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr, rydym yn sicrhau bod ein dysgwyr yn ysbrydoledig, yn wybodus ac yn gwbl barod i bontio i'r byd gwaith.
Croesawn ddull hyblyg ac arloesol i'r bartneriaeth, a chydnabyddwn unigrywiaeth pob sefydliad. P'un ai yw drwy siaradwyr gwadd, lleoliadau gwaith, mewnbwn i’r cwricwlwm neu fentrau eraill, rydym yn agored i archwilio ffyrdd ystyrlon o weithio gyda'n gilydd er budd ein myfyrwyr, cyflogwyr a'r gymuned leol.

Cymryd Rhan
Gellir ymuno â’r Addewid AM DDIM, a byddwch yn helpu i gryfhau ein hymgysylltiad gyda phartneriaid yn y diwydiant, a darparu cyfnewidfa ddwy ffordd o syniadau a gwybodaeth i alluogi busnesau a Coleg Gwent i gydweithio.
Gellir ymuno â’r Addewid AM DDIM, a byddwch yn helpu i gryfhau ein hymgysylltiad gyda phartneriaid yn y diwydiant, a darparu cyfnewidfa ddwy ffordd o syniadau a gwybodaeth i alluogi busnesau a Coleg Gwent i gydweithio. Croesawir cyfraniadau gan bob cyflogwr, pa un ai eich bod yn sefydliad mawr, BBaChau neu fusnes micro. Isod, rydym wedi amlinellu’r amrywiaeth o weithgareddau a mentrau sydd, yn ein barn ni, yn cynnig cyfle i gyflogwyr weithio gyda Coleg Gwent. Drwy gofrestru, bydd cwmnïau’n ymrwymo i’n Haddewid Partneriaeth ac yn barod i gymryd rhan mewn un, neu fwy, o’r gweithgareddau hyn dros gyfnod o 3 blynedd.
- Mynychu ffeiriau swyddi, prentisiaethau, mewnwelediadau a gyrfaoedd
- Cynnig gwaith, lleoliad gwaith gyda diwydiant, interniaethau, prosiectau byw ac ymweliadau â safleoedd
- Gwneud cyflwyniadau cyflogwyr, darlithoedd gan westai o’r sector, dosbarthiadau meistr a sesiynau blasu
- Cefnogi gweithdai sgiliau cyflogadwyedd – cyflwyniad ar cv, ceisiadau a chyfweliadau ffug
- Ymwneud â chynllunio a datblygu cwricwlwm
- Ymuno â fforymau a rhwydweithiau cyflogwyr
- Hyrwyddo swyddi, cyfleoedd gwaith a recriwtio myfyrwyr
- Hyfforddi eich gweithlu a DPP staff drwy’r coleg
- Cyflogi Prentisiaid