• Rhan Amser

DVLA Trwydded Categori D

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn galluogi i chi sicrhau Trwydded Categori D PCV sy'n cynnwys cerbyd sy'n cludo teithiwr gyda mwy na 16 o seddau i deithwyr.

Bydd yr hawl PCV D hefyd yn galluogi i chi yrru bysys, bysys deulawr a bysiau hyblyg (bendi buses). Nid oes angen i chi fod wedi meddu ar eich trwydded categori C am gyfnod penodol o amser.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn

... unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi ei meddu am gyfnod penodol o amser.

... gyrwyr cymwys sy’n awyddus i wella eu sgiliau a dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr.

...unigolion sydd am ymuno gyda'r gwasanaethau brys a gyrru ambiwlans.

Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr fel arfer ar sail 1 i 1.

Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod llawn, gan ddychwelyd ar gyfer eich prawf ymarferol ar y trydydd diwrnod, sef y diwrnod olaf

Ar y cwrs hwn, byddwch yn:

  • Cael eich cyflwyno i'r cerbyd
  • Codi hyder yn gyrru cerbydau llawer o deithwyr, mawr
  • Cywiro eich dull o yrru er mwyn paratoi ar gyfer eich prawf gyrru
  • Cwblhau'r hyfforddiant a'r asesiad ymarfer gyrru am yn ôl
  • Ymarfer y cwestiynau 'dangoswch, dywedwch' y byddwch yn cael eu gofyn ar ddechrau'r prawf.

Mae dwy ran i’r prawf gyrru ymarferol:

  • Modiwl 3A: Ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho. Yn ystod eich cwrs hyfforddi gyrrwr, byddwch yn ymarfer yr ymarfer hwn yn ein hardal gyrru am yn ôl preifat, a byddwn yn eich profi pan fyddwch yn teimlo'n hyderus.
  • Modiwl 3B: gyrru ar y ffordd am 60 munud. Bydd arholwr gyrru DVSA yn cynnal hwn ar ddiwedd eich cwrs hyfforddiant ymarferol. Byddwch yn cymryd eich prawf ar yr un ffyrdd ag y buoch yn hyfforddi arnynt.

Rydym yn defnyddio cerbydau awtomatig llawn at bwrpas hyfforddiant. Drwy lwyddo mewn cerbyd awtomatig, byddwch yn derbyn hawl gyrru PCV arferol. Rydym yn dethol ein cerbydau hyfforddi yn ofalus er mwyn sicrhau bod eich hyfforddiant gyrrwr mor hawdd â phosib.

Cyn hyfforddiant ymarferol, bydd rhaid i chi:

  • gwblhau asesiad meddygol er mwyn ymgeisio am eich trwydded dros dro
  • pasio'r profion theori PCV perthnasol

Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa i ddod yn yrrwr ac ar gyfer ennill trwydded
  • rheswm dros ddewis categori trwyddedu
  • profiad blaenorol o yrru cerbydau mwy neu beiriannau
  • anghenion cefnogi ychwanegol ar gyfer profion meddygol neu theori
  • mynediad at liniadur/cyfrifiadur/llechen/ffôn clyfar er mwyn cwblhau adolygu theori ac ymrwymiad amser ar gyfer hyn
  • prawf meddygol/dros dro neu brawf theori a gwblhawyd cyn hyn

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0171AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy