Yn gryno
Mae'r cwrs 'Signature' achrededig hwn yn sylfaen ardderchog ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y cwrs hwn yn darparu'r wybodaeth sylfaenol a'r hyder i allu cynnal sgyrsiau sylfaenol gyda phobl Fyddar
Y rheini sydd am ddysgu'r sgiliau iaith sylfaenol i allu cynnal sgyrsiau syml a phobl fyddar am resymau personol neu broffesiynol.
Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain, fel unrhyw ail iaith arall, angen ymrwymiad ac ymroddiad er mwyn ennill y sgil sy'n ofynnol yn effeithiol. Bydd gofyn i chi astudio'n annibynnol y tu allan i oriau'r ystafell ddosbarth, yn ogystal a fel rhan o grwp mewn ystafell ddosbarth.
Byddwch yn astudio tair uned orfodol o'r cwrs 16 wythnos o hyd:
Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain
Iaith Arwyddion Prydain sgyrsiol
Cyfathrebu am fywyd bob dydd drwy Iaith Arwyddion Prydain.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddangos i ddysgwyr sut i gyfathrebu gyda phobl Fyddar drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language - BSL) ar ystod o themau sydd yn cynnwys defnydd syml, bob dydd o'r iaith. Byddant yn ennill sgiliau sylfaenol a hyder wrth gynhyrchu a derbyn BSL.
Fe'ch asesir drwy sesiynau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal a thri asesiad fideo byr a recordiwyd ar ddiwedd y cwrs sydd yn cwmpasu ystod o themau bob dydd. Ar ol eu cwblhau, byddwch yn ennill Dyfarniad 'Signature' Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.
Ar ol y cwrs hwn, gallwch symud ymlaen i Ddyfarniad 'Signature' Lefel 2 mewn Iaith Arwyddion Prydain.