Yn gryno
Bydd y dyfarniad hwn yn dangos dysgwyr sut i gymhwyso Rheoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad (a diwygiad).
Bydd yn darparu cyfleuster i unigolion sy'n gweithio yn y sector electro-dechnegol allu datblygu a/neu wella eu gwybodaeth o Ofynion Gosodiadau Trydanol.
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y sawl sy'n gweithio yn sector electro-dechnegol megis trydanwyr, dylunwyr ac arolygwyr sy'n dymuno gloywi eu gwybodaeth o Reoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad (a diwygiad) a dysgwyr sy'n dymuno ennill dealltwriaeth o BS 7671. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu holl gynnwys BS 7671: Rheoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad. Mae'r rheoliadau yn berthnasol i ddylunio, gosod a dilysu gosodiadau electronig, a gwneud ychwanegiadau neu welliannau i osodiadau presennol.
Rhaid i ddysgwyr fod o leiaf 16 oed.