Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i fireinio eich ffotograffiaeth mewn ffordd bleserus, gan ddatblygu eich gwybodaeth bresennol ymhellach. Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais ar wella sgiliau wrth fwynhau creu lluniau a helpu i ddatblygu eich dull tuag at ffotograffiaeth.
... Chi'n greadigol.
... Oes diddordeb brwd gennych mewn ffotograffiaeth.
... Ydych chi am ddysgu sgiliau ffotograffiaeth newydd.
... Ydych chi am ail-sbarduno eich creadigrwydd.
- Ffotograffiaeth yn y stiwdio: portreadau a bywyd llonydd
- camerâu ffrâm lawn a fformat canolig
- Cyanoteipiau
- Ffotograffiaeth Amlygiad Hir a Thremio
- Taith maes
- Datblygu prosiectau
Bydd yna daith i leoliad/taith maes fel rhan o'r cwrs a bob wythnos ceir adborth oddi wrth diwtoriaid a chyfoedion ar ddelweddau myfyrwyr ar ffurf sioe sleidiau ynghyd â beirniadaeth grŵp.
Mae profiad blaenorol yn angenrheidiol; dylech feddu ar ddiddordeb gwirioneddol yn y pwnc a’r ymrwymiad i dynnu lluniau o destunau y tu allan i oriau’r cwrs. Bydd angen i chi gael mynediad at gamera digidol.
Mae perchen ar gamera DSLR neu Heb Ddrych yr ydych yn hyderus wrth ei ddefnyddio yn hanfodol.