Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi yn gwrs 4 blynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni Plymio a Gwresogi neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau plymio a gwresogi. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu plymwyr cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad ac yn dysgu am systemau Gwres Canolog, systemau Poeth ac Oer a systemau Glanweithdra (setiau ystafell ymolchi a chawodydd).
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin a phynciau penodol, yn ogystal a sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
Sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
Gwersi damcaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth â chyfarpar da
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial 1:1 a grŵp
Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg.
a
I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd.
a
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.