Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gwneud Offer Peirianneg yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwneud Offer Peirianneg sy'n dysgu unigolion i ddod yn wneuthurwyr offer medrus. Mae hyn yn cynnwys datblygu cymwyseddau mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, CAD (Dylunio a Chymorth Cyfrifiadur), peiriannu manwl gywir, a chynnal a chadw systemau mecanyddol a thrydanol.
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd a thri gradd C arall (Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig yn ddelfrydol), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod yn llwyddiannus. Bydd dysgwyr mwy aeddfed yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gymwysterau mynediad a/neu eich profiad.
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwneud Offer Peirianneg yn y gweithle. Cwblheir y Diploma Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg neu'r Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg yn rhan-amser yn y Coleg.