Yn gryno
Cewch sylfaen gadarn mewn egwyddorion cyfrifiadura, gan gyfeirio’n arbennig at ddadansoddi, dylunio a gweithredu systemau cyfrifiadurol mewn cyd-destun busnes.
... ydych yn gweithio yn y diwydiant ond os ydych eisiau cymhwyster ffurfiol ...
ydych yn chwilio am yrfa newydd sbon ...
ydych eisiau dealltwriaeth eang ond dwfn o gyfrifiadura
Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae cyfrifiadura’n rhan o bopeth a wnawn, felly bydd cymhwyster fel hwn yn siwr o arwain at lu o gyfleoedd gyrfa.
Blwyddyn Un
- Ymarfer proffesiynol mewn cyfrifiadura
- Datblygu meddalwedd
- Dadansoddi a dylunio systemau gwybodaeth 1
- Systemau cyfrifiadurol a chysyniadau rhwydweithio
- Rhaglennu cyfrifiadurol 1
- Datblygu gwefannau
- Datrys problemau’n ymwneud â chyfrifiadura
Blwyddyn Dau
- Prosiect unigol HND
- Pensaernïaeth a modelu systemau
- Rhaglennu cyfrifiadurol 2
- Datblygu gwefannau ymatebol
- E-fusnes
- Diogelwch systemau cyfrifiadurol
Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfrwng cymysgedd o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial a sesiynau ymarferol. Hefyd, byddwch yn mynd i’r afael â dysgu dan gyfarwyddyd, darllen deunyddiau cefndir a gweithdai cyfrifiadurol, ac yn datblygu meddalwedd trwy ddefnyddio dulliau datblygu meddalwedd 3GL a 4GL. Bydd pob modiwl yn cynnwys aseiniadau, a bydd rhai’n cynnwys arholiadau ar y diwedd.
I gofrestru, byddwch angen o leiaf 3 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth) ynghyd â’r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS – amcangyfrifydd tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.
Gall myfyrwyr symud yn eu blaen at ail flwyddyn BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru.
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS – amcangyfrifydd tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.