EAL Dyfarniad Lefel 3 mewn Gofynion Gosodiadau Trydanol BS

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y dyfarniad hwn yn dangos dysgwyr sut i gymhwyso Rheoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad (a diwygiad).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Bydd yn darparu cyfleuster i unigolion sy'n gweithio yn y sector electro-dechnegol allu datblygu a/neu wella eu gwybodaeth o Ofynion Gosodiadau Trydanol.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y sawl sy'n gweithio yn sector electro-dechnegol megis trydanwyr, dylunwyr ac arolygwyr sy'n dymuno gloywi eu gwybodaeth o Reoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad (a diwygiad) a dysgwyr sy'n dymuno ennill dealltwriaeth o BS 7671. Mae'r cymhwyster yn cwmpasu holl gynnwys BS 7671: Rheoliadau Gwifrau IET, Deunawfed Argraffiad. Mae'r rheoliadau yn berthnasol i ddylunio, gosod a dilysu gosodiadau electronig, a gwneud ychwanegiadau neu welliannau i osodiadau presennol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i ddysgwyr fod o leiaf 16 oed.
BCEM0061AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.