VTCT Celfyddyd Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau (Oedolion) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023

Hyd

Hyd
34 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 3 TGAU gradd D neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, A dawn greadigol neu brofiad o waith celf.

Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Mae artistiaid colur yn dyfeisio ac yn rhoi colur i gyfleu ymdeimlad o ddrama, p’un a yw ar gyfer ffilm, theatr, ffotograffau neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol. Bydd cymhlethdod a’r math o gysyniad yn amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad a'r cymeriad, ond gall artistiaid colur da gyfleu ystod eang o edrychiadau ar draws amrywiaeth o genres.

Wrth weithio fel artist colur, ceir amrywiaeth o lwybrau dilyniant. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng bod yn gynorthwyydd colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio, yn dibynnu ar eich profiad.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb mewn dod yn artist colur

... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm

... Byddech wrth eich bodd yn dysgu technegau colur newydd ac yn arbrofi gydag edrychiadau newydd

... Rydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel artist colur, rydych yn gyfrifol am goluro a steilio gwallt pobl sy'n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau tynnu lluniau neu ddigwyddiadau byw megis cyngherddau, sioeau neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan bwysig yn y cwrs hwn ac mae'r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy'n gallu coluro a steilio gwallt.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i'r cyfryngau yn cynnwys:

  • Colur ar gyfer y llwyfan
  • Heneiddio ar gyfer y llwyfan
  • Effeithiau arbennig
  • Lleoliad gwaith
  • Gwneud wigiau
  • Trin gwallt sylfaenol
  • Defnyddio wigiau gwallt
  • Colur ffasiwn
  • Colur ffotograffig
  • Colur cyfnod
  • Paentio wyneb
  • Cynllunio celf corff
  • Gwneud celf ewinedd

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol neu ar sail thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill Diploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 3 TGAU gradd D neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, A dawn greadigol neu brofiad o waith celf.

Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i astudio Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ac i'r Cyfryngau, neu fynd yn syth i gyflogaeth neu addysg bellach.

Wrth weithio fel artist colur, byddwch yn dysgu nad oes un llwybr datblygu penodol. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng cynorthwyydd colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio, yn dibynnu ar eich profiad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ystod y cwrs, bydd angen i chi lynu at ein cod gwisg:

  • Mae'n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon call mewn salonau
  • Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb a gwisgo colur er mwyn edrych yn broffesiynol
  • Dim tlysau amlwg
  • Cewch wisgo modrwy briodas yn unig yn yr ystafell golur

Bydd disgwyl i chi brynu gwisg a chitiau colur a gwallt, a thalu am dripiau fel amod o'ch lle ar y cwrs. Mae cost hyn tua £125.

I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn talu am gost un wisg lawn bob blwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i’w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y darparwr priodol os/pan fydd angen.

Gallai’r costau newid.

Ble alla i astudio VTCT Celfyddyd Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau (Oedolion) Lefel 2?

CPDI0197AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr