City & Guilds Cwrs Sylfaen Gosod Brics Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Os ydych chi eisiau bod yn friciwr neu'n saer coed mae'r cwrs hwn wedi'i wneud ar eich cyfer chi! Gallwch ddysgu hanfodion gosod brics a sgiliau gwaith brics a saernïaeth sylfaenol yn ein gweithdai pwrpasol, fel y gallwch ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa fel gosodwr brics neu saer coed
... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu
... Rhai sydd eisiau cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gosod brics a gwaith coed.
Byddwch yn astudio unedau mewn:
- Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
- Cyfrannu at osod allan ac adeiladu strwythurau gwaith maen hyd at gwrs gwrthleithder
- Cynnal gweithgareddau gosod blociau
- Cynnal gweithgareddau gosod brics a gwaith coed
- Cynnal gweithgareddau codi waliau ceudod
- Iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladu
Asesir y cwrs trwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein. Un wedi'i gwblhau, eich cymwysterau fydd:
- Diploma Lefel 1 Gwaith Brics
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/ Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 2 Gosod Brics, Prentisiaeth neu gyflogaeth.Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud asesiad y diwydiant adeiladu er mwyn helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar eich cyfer.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0376AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr