Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Lles Cymunedol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
26 Medi 2023
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
Yn ogystal â:
- Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.
Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn gryno
Byddwch yn dysgu am faterion iechyd cymunedol ac yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol i’w defnyddio gyda chleifion. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu cyffredinol, gweithio mewn tîm, rheoli amser a TG er mwyn gallu gweithio mewn ystod o leoliadau.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn gweithio yn y sector iechyd a gofal ar hyn o bryd
... Hoffech ddatblygu eich gyrfa
... Ydych yn ystyried nyrsio neu fydwreigiaeth yn y dyfodol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y rheini nad ydynt yn gweithio mewn rôl sy’n ymwneud ag iechyd eisoes yn cwblhau dau leoliad, ynghyd â phrosiectau sy’n gysylltiedig â’r gwaith y maent yn ei wneud. Os ydych mewn gwaith priodol, gallwch ddefnyddio hyn fel cyfle i archwilio agweddau newydd o gyd-destun eich gwaith a gwella eich rhagolygon gyrfa.
Bydd y modiwlau yn cynnwys anatomi a ffisioleg, hybu iechyd, gweithgaredd corfforol, ffordd o fyw a moeseg.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Byddwch angen lleiafswm o 3 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth) ac:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen at gyflogaeth mewn swydd ymarferydd cynorthwyol mewn ystod o sefydliadau gofal iechyd, megis y GIG, prosiectau iechyd cymunedol, y sector preifat, gwaith adsefydlu neu ofal cymdeithasol. Gallwch hefyd symud ymlaen at radd BA llawn mewn Iechyd a Llesiant Cymunedol neu ymgeisio ar gyfer cwrs arall sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud profiad gwaith, gan fod hyn yn gysylltiedig â modiwlau craidd. Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Felly, mae'n hanfodol i ddysgwyr wneud cais am wiriad DBS fydd yn costio £44.
Rhoddir masnachfraint ar gyfer y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw 4A83
Efallai y byddwch angen llyfrau o'r rhestr ddarllen, fodd bynnag fe'ch anogir i ddefnyddio'r llyfrgell ac adnoddau ar-lein.
Mae'r cwrs hwn yn amodol ar ail-ddilysu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
EFDG0026AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 26 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr