Yn gryno
Mae’r dosbarth hwn yn cynnig cyfle i arbrofi â thechnegau ffotograffiaeth cyn digidol. Mae wedi’i strwythuro i fynd â chi trwy nifer o agweddau gwahanol ar ffotograffiaeth analog gan roi cyfle i chi archwilio amgylchedd y stiwdio ac amgylchedd ystafell dywyll draddodiadol gan ddefnyddio ymarferion hanesyddol.
Rydych chi’n greadigol ac mae gennych chi ddiddordeb mewn ffotograffiaeth analog. Hoffech chi gymryd lluniau heb gamera digidol – neu unrhyw gamera o gwbl.
Caiff y dosbarthiadau hyn eu strwythuro i fod yn greadigol, yn anffurfiol ac yn hwyl. Byddant wedi’u lleoli yn yr ystafell dywyll a’r stiwdio.
Cewch gyfle i roi haen o gemegau cyanotype dros bapur a’u harddangos i olau i greu delweddau.
Creu ffotogramau a chemigramau ac archwiliwch wneud marciau haniaethol mewn amgylchedd ystafell dywyll.
Adeiladu camera twll pin a’i ddefnyddio i dynnu lluniau yna argraffu’r negatifau yn ffotograffau.
Defnyddio camera fformat mawr ar gyfer ffotograffiaeth portreadau a bywyd llonydd yn y stiwdio ffotograffiaeth.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth ychwanegol:
Bydd angen gwisgo dillad addas ar gyfer gweithgareddau.