Gwneud Gemwaith

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£40.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
19 Ebrill 2023

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
6 wythnos

Yn gryno

A ydych chi erioed wedi codi carreg fach o’r traeth, wedi darganfod darn o wydr môr, wedi gweld gem led-werthfawr neu grisial ac wedi meddwl...rwy’n hoffi hwn ond beth wna i ag o? Peidiwch â’u cadw ar silff - trowch nhw yn ddarnau unigryw o emwaith wedi’u rhwymo â gwifrau!

Ymunwch â ni am gwrs 5 wythnos hwyliog ac ysbrydoledig. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau ar ffurf gweithdy, a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion rhwymo â gwifrau. Unwaith bydd y wybodaeth a’r technegau sylfaenol gennych, byddwch yn cael eich annog i ddylunio a chreu eich darn eich hun o emwaith unigryw gan ddefnyddio’r trysorau rydych wedi eu darganfod.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...dechreuwyr pur sydd ddim wedi gwneud gemwaith o’r blaen

... unrhyw un sydd eisiau dysgu rhywbeth newydd

...pobl greadigol sy’n chwilio am hobi creadigol.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i feysydd allweddol gemwaith wedi’i rwymo â gwifrau:

  • Hanfodion trin gwifren
  • Gwehyddu gwifrau
  • Rhwymo cerrig/gleiniau.

Erbyn diwedd y cwrs, dylech deimlo'n ddigon hyderus i allu defnyddio'r technegau a ddysgoch i ymestyn eich taith greadigol gyda’ch gemwaith - eich dychymyg yn unig sy’n eich cyfyngu!

Darperir yr holl offer angenrheidiol ynghyd â nifer gyfyngedig o wifrau ac ystod o leiniau/cerrig i ymarfer y technegau sylfaenol.

Bydd angen i chi brynu gwifrau a gleiniau/cerrig ychwanegol er mwyn cwblhau eich dyluniadau eich hun.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn cynnig dewis o gyrsiau ar nos Fercher rhwng 6-9pm trwy gydol y flwyddyn, heblaw am cynhurchu gemwaith a fydd 6-8yp. Mae pob cwrs yn rhedeg am 6 wythnos ac yn dechrau a gorffen ar yr un dyddiadau.

Y cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd yw Gwneud Gemwaith, Cerameg, Ffotograffiaeth, Argraffu 3D, Gwneud Printiau, Tecstilau, Lles Creadigol ac Ymarfer Celfyddydau, Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live, y Celfyddydau Perfformio a Chanu er Pleser.

Bydd yr holl wifrau ac offer yn cael eu darparu.  Bydd angen i chi ddod â dewis o fwclis 6mm a 4mm yn ogystal â’ch eitemau eich hun i lapio weiren o’u cwmpas.  Er enghraifft - cerrig lliwgar lled-werthfawr, gwydr môr, cerrig bychain, cregyn.

Ble alla i astudio Gwneud Gemwaith?

CPCE3208AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 19 Ebrill 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr