Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw datblygu dealltwriaeth dysgwyr o awtistiaeth a'r egwyddorion o gefnogi unigolion ag awtistiaeth.
Mae hyn yn cwmpasu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolion a’r dylanwad o ddulliau cyfathrebu cadarnhaol, sut i gefnogi ymddygiad cadarnhaol a sut y gellir cefnogi unigolion ag awtistiaeth i fyw bywydau iachus a boddhaus.
Amcan y cymhwyster hwn yw helpu dysgwyr i symud ymlaen o fewn cyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau, ac mewn nifer o rolau swydd lle bydd angen dealltwriaeth o awtistiaeth a gwybodaeth ar sut i gefnogi pobl ag awtistiaeth.
... Hoffech ddatblygu eich dealltwriaeth o awtistiaeth a’ch gwybodaeth ar sut i gefnogi pobl ag awtistiaeth.
Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau yn y sectorau canlynol:
- gofal iechyd
- gofal cymdeithasol
- hamdden
- addysg
- blynyddoedd cynnar
- gwirfoddol
Y modiwlau a gwmpesir yw:
-
Cyflwyniad i awtistiaeth
-
Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar unigolion i gefnogi unigolion ag awtistiaeth
-
Cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol yr unigolyn ag awtistiaeth
-
Prosesu synhwyraidd, canfyddiad a gwybyddiaeth mewn unigolion ag awtistiaeth
-
Cefnogi ymddygiad positif mewn unigolion ag awtistiaeth
-
Cefnogi unigolion ag awtistiaeth i fyw bywydau iachus a boddhaus
Cynhelir gwersi gyda 152 o oriau dysgu dan arweiniad.
Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol yn benodol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ddefnyddiol i ddysgwyr gyflawni cymhwyster Lefel 1 yn gyntaf.
Dysgir y cwrs hwn gan ein staff addysgu sydd â chymwysterau llawn yn ogystal â phrofiad o awtistiaeth ar lefel Meistr.
Bydd cwblhau portffolio o waith a aseswyd yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu Tystysgrif CACHE lefel 2.
Asesir y cymhwyster hwn yn fewnol ac fe’i sicrheir ei ansawdd yn allanol.
Gallai dysgwyr sy'n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen i:
- Diploma Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant (Addysgwr y Blynyddoedd Cynnar)
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Paratoi i Weithio mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) ar gyfer Lloegr
- Diploma Lefel 3 ar gyfer Gofal Plant Preswyl (Lloegr)
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Cefnogi Plant a Phobl Ifanc ag Awtistiaeth
- Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
- Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.