Yn gryno
Nod y cymhwyster hwn yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.
...unrhyw un sydd eisiau ennill a meithrin gwybodaeth am iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.
...y rheini sydd am symud ymlaen i gymwysterau pellach
...y rheini sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi sy'n gofyn i chi weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y sector addysg ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau pob un o'r 5 uned orfodol yn llwyddiannus, sy'n cynnwys:
-
Iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ei gyd-destun
-
Ffactorau a allai effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc
-
Pryderon iechyd meddwl plant a phobl ifanc
-
Effaith pryderon iechyd meddwl plant a phobl ifanc
-
Sut i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl
Nid oes angen lleoliad ar gyfer y cwrs hwn.
(Yn y cymhwyster hwn, mae plant a phobl ifanc yn cyfeirio at ystod oedran o 5 i 18 oed.)
Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed.