Yn gryno
Canllaw i ddechreuwyr ar feddalwedd DJ Ableton Live a Rekord box. Mae’r cwrs hwn yn llwybr at ddatblygu rhai sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth a DJ sylfaenol.
Ymhlith y gwersi mae paru curiadau gyda Rekordbox, lwpio byw a chyfansoddi gydag Ableton Live. Cewch ddysgu sut i olygu a chynhyrchu eich curiadau eich hun, deall effeithiau a thechnegau cynhyrchu cerddoriaeth sylfaenol
… unrhyw un sydd eisiau dysgu sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth sylfaenol
… y rhai sydd eisiau datblygu Sgiliau DJ
… dysgwyr sydd eisiau dysgu sgiliau cyfansoddi a chynhyrchu eu cerddoriaeth eu hunain
Ableton: Cynhyrchu Cerddoriaeth
Edrych ar ddefnyddio MIDI/Audio yn lolfa Ableton. Datblygu sgiliau cynhyrchu gydag Ableton ac edrych ar gyfansoddi gan ddefnyddio Push 2.
Rekordbox:
Hanfodion sgiliau DJ a pharu curiadau. Defnyddio Rekordbox a pharatoi traciau i baru curiadau. Defnyddio DDJ a dysgu sut i ddefnyddio effeithiau’n fyw a chyfuno elfennau cerddorol amrywiol ar gyfer un trac creadigol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
- Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol