En

YMCA Tystysgrif mewn Therapi Tylino Chwaraeon (camweithrediad meinwe meddal) Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
20 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
17 wythnos

Yn gryno

Ar Lefel 4, mae rôl Ymarferydd Tylino Chwaraeon yn cynnwys cynllunio, darparu a gwerthuso triniaethau tylino chwaraeon.

Gellir cynnal Tylino Chwaraeon at ddibenion adferol a datrys cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, rhwng digwyddiadau, neu er mwyn cynnal a chadw'r cyhyrau (yn canolbwyntio ar batholeg cyhyrau a phara-tendon), gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau tylino sylfaenol ac uwch.

Cyfyngir cwmpas yr ymarfer i weithio ar feinwe problemus, mân anafiadau diweddar neu gyflyrau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... rydych chi’n Therapydd Tylino Chwaraeon sy'n chwilio am ddatblygiad proffesiynol parhaus pellach.

... rydych chi'n Therapydd Tylino Chwaraeon sydd eisiau gwella eich profiad ymhellach.

... rydych yn Therapydd Tylino Chwaraeon sydd eisiau cymhwyster cydnabyddedig sy'n bodloni safonau proffesiynol.

Cynnwys y cwrs

Modiwlau sy’n cael eu cynnwys:

  • Cynnal asesiad goddrychol a gwrthrychol.
  • Dulliau trin i gefnogi adferiad meinwe meddal.
  • Darparu technegau tylino chwaraeon i atal a rheoli anafiadau.

Sut y cewch eich asesu:

  • Arsylwadau o berfformiad ymarferol.
  • Papurau asesu damcaniaeth gyda chwestiynau atebion byr.

Taflenni gwaith ysgrifenedig/tasgau ysgrifenedig.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr feddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon neu gyfwerth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Addysgir y cwrs gan ddarlithwyr therapydd tylino chwaraeon cymwys.

Darperir y cwrs dros 10 wythnos.

8 awr yr wythnos (Fel arfer ar ddydd Mawrth a dydd Gwener)

Pwyntiau CPD REPs: 16

Pwyntiau CPD wedi’u cymeradwyo gan CIMPSA: 10

Ble alla i astudio YMCA Tystysgrif mewn Therapi Tylino Chwaraeon (camweithrediad meinwe meddal) Lefel 4?

UCCE3422AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 20 Ionawr 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr