En

Merched mewn adeiladu

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Hydref 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
12 wythnos

Yn gryno

Mae ymchwil yn dangos mai dim ond 10% o weithwyr y diwydiant adeiladu sy'n fenywaidd, gyda dim ond 2% yn gweithio gyda'r offer.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod merched sydd eisiau ymuno â'r diwydiant yn cael eu hanghefnogi gan anghydbwysedd rhwng y nifer o ddynion a merched yng ngweithgareddau'r dosbarth neu weithdai. Felly, rydym wedi cyflwyno ein cwrs cyntaf i fenywod yn unig sy'n cynnwys amrywiaeth o grefftau.

Bydd y cwrs hwn yn darparu'r cyflwyniad delfrydol i'r diwydiant adeiladu, a gall fynd i'r afael â'r sgiliau hanfodol yn y crefftau adeiladu canlynol: gosod brics, gwaith coed a saernïaeth, plastro, paentio ac addurno, gweithdrefnau adeiladu, teilsio waliau a lloriau, gwaith trydanol a phlymio.

Mae wedi'i deilwra i fod yn addas i anghenion yr unigolyn, ac i adeiladu hyder mewn deheurwydd â llaw o fewn y sector adeiladu.

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i alluogi'r unigolyn ddilyn cwrs o'i ddewis o fewn y diwydiant adeiladu, fydd yn dal cymhwyster i safonau cydnabyddedig Lefel 1/lefel 2.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...dysgwyr benywaidd sydd eisiau cyflwyniad i Adeiladu a llwybr at newid gyrfa posib.

...dysgwyr benywaidd sydd eisiau cwblhau cynnal a chadw ty syml.

Cynnwys y cwrs

Mae'n gwrs ymarferol, sy'n rhoi pwyslais ar adeiladu sgiliau o ran deheurwydd â llaw.

Bydd cysylltiadau at reoliadau a chyfreithiau Adeiladu, ond dim arholiadau, profion, nac asesiadau swyddogol.

Y myfyrwyr fydd yn arwain holl asesiadau tasgau ymarferol.

Ni cheir cymhwyster Swyddogol gan gorff dyfarnu. Fodd bynnag, byddant yn derbyn Tystysgrif gan y Coleg.

Gofynion Mynediad

Diddordeb mewn adeiladu.

Ble alla i astudio Merched mewn adeiladu?

NECE3148AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 01 Hydref 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr