BTEC Tystysgrif mewn Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
- 5 TGAU gradd A* i C. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gradd B mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Gwyddoniaeth ac Iaith Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf)
neu
- Gymhwyster Lefel 2 perthnasol a gradd B ar gyfer TGAU Mathemateg
Yn gryno
Mae angen ar ddiwydiant gweithgynhyrchu modern weithlu sy’n gallu defnyddio’r deunyddiau cyfansawdd diweddaraf, peiriannau wedi’u hawtomeiddio gan gyfrifiadur cyfoes, a thechnegau argraffu 3D. Bydd y cwrs BTEC Diploma Estynedig hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn bod ar flaen y gad yn y diwydiant hwn sy’n newid yn gyflym. Mae’n gyfwerth â 3 chymhwyster Safon Uwch.
Dyma'r cwrs i chi os...
... os hoffech chi yrfa mewn peirianneg weithgynhyrchu fodern
... os hoffech chi weithio gyda phrosesau gweithgynhyrchu cyfoes
... os ydych chi’n dwlu ar weld syniadau am gynnyrch newydd yn cael eu gwireddu
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff y cwrs hwn ei asesu trwy ystod o weithgareddau gweithdy ymarferol, aseiniadau a phrofion ar-lein allanol.
Trwy astudio ar y cwrs hwn, byddwch chi’n:
- Datblygu’r egwyddorion mathemateg, trydanol a mecanyddol sylfaenol angenrheidiol ar gyfer diwydiant.
- Dysgu am ddiwydiant a’r disgwyliadau wrth weithio ym maes gweithgynhyrchu.
- Cyflawni tasgau ymarferol mewn gweithdai o’r radd flaenaf gan gynnwys gweithio gyda pheiriannau modern a reolir gan gyfrifiadur, peiriannau argraffu a sganio 3D.
- Dysgu sut i ddatblygu eich syniadau am gynnyrch gan ddefnyddio technegau dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch chi’n gallu tynnu’r holl sgiliau at ei gilydd mewn prosiect sy’n berthnasol i ddiwydiant.
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch chi’n ennill
- BTEC Diploma Estynedig mewn Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, bydd angen:
- 5 TGAU gradd A* i C. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gradd B mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Gwyddoniaeth ac Iaith Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf)
neu
- Gymhwyster Lefel 2 perthnasol a gradd B ar gyfer TGAU Mathemateg
Hefyd, rhoddir ystyriaeth i fyfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod yn llawn ond maent yn meddu ar brofiad perthnasol. Bydd hyn yn cael ei benderfynu trwy gynnal trafodaeth ag arweinydd y cwrs.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar gwblhau’r cwrs, gallech chi symud i:
- Addysg Uwch megis cwrs HNC/D neu gwrs gradd yn Coleg Gwent
- Prentisiaeth yn niwydiant gweithgynhyrchu / peirianneg
- Byd gwaith
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBE0021AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr