Yn gryno
Ewch ymhellach yn eich gyrfa ym maes Teithio a Thwristiaeth gyda’r Ddiploma Ragarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth!
Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau uwch sydd eu hangen arnoch chi i weithio yn y diwydiant neu symud ymlaen i addysg uwch. Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o'r sector ynghyd ag ystod o sgiliau arbenigol.
...Yn awyddus i ddysgu mwy am Deithio a Thwristiaeth
….. Eisiau dysgu mwy am y sector Teithio a Thwristiaeth
... Â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y byd Teithio a Thwristiaeth
... Yn teimlo’n gyffrous am deithio'r byd, cyfarfod pobl newydd ac archwilio llefydd newydd.
Gall gweithio yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth ddod â llu o gyfleoedd cyffrous. Gallech gael eich hun yn teithio dramor yn ddyddiol, gan weithio'n rhyngwladol neu gwrdd â phobl o bob cwr o'r byd pan fyddant yn ymweld â'ch mamwlad.
Mae'r diwydiant eisoes yn gyfrifol am fwy na 10% o gyflogaeth fyd-eang ac mae tua 2,000,000 o bobl yn gweithio ym maes twristiaeth ym Mhrydain, gan ei wneud yn un o ddiwydiannau mwyaf poblogaidd y wlad.
Mae'r unedau ar y cwrs yn cynnwys:
- Ymchwilio i'r diwydiant teithio a thwristiaeth
- Busnes teithio a thwristiaeth
- Gwasanaeth cwsmer
- Y DU fel cyrchfan
- Teithio manwerthu
- Gweithrediadau teithiau
- Cyrchfannau Ewropeaidd
- Paratoi ar gyfer cyflogaeth
- Profiad Gwaith
- Ymchwilio i'r diwydiant mordeithiau
- Twristiaeth arbenigol
- Gweithrediadau teithio busnes
- Gweithio fel cynrychiolydd gwyliau
- Trefnu ymweliad astudio
- Marchnata cynhyrchion a gwasanaethau
- Cyrchfannau pell
- Ymchwilio i faterion cyfredol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth
- Twristiaeth gyfrifol
Asesir y cwrs trwy waith portffolio, gwaith cwrs, prosiectau, gwaith grwp a chyflwyniadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cael:
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth
- Bagloriaeth Cymru
- Cymwysterau atodol perthnasol i ehangu eich set sgiliau a bodloni gofynion y diwydiant
- Gweithgareddau sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU (ar radd C neu’n uwch) gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd NEU Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg/Rhifedd ar radd C neu’n uwch.
Mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a mwynhau gweithio fel rhan o dîm.
Ar ôl eich cwrs dwy flynedd, gallwch symud ymlaen i'r cwrs HND mewn Rheolaeth Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngholeg Gwent (mewn masnachfraint gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd), ennill cyflogaeth, neu symud ymlaen i gwrs prifysgol sy'n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU (ar radd C neu’n uwch) gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd NEU Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg/Rhifedd ar radd C neu’n uwch.
Bydd gofyn i chi brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £150.