Yn gryno
Mae'r cwrs 2 flynedd hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n frwd dros Gerddoriaeth ac sydd â diddordeb i gael gyrfa yn y Diwydiant Cerdd a Chelfyddydau Perfformio.
... Rydych yn angerddol dros gerddoriaeth.
... Mae gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y byd cerdd neu mewn rôl celfyddydau perfformio.
... Rydych yn frwdfrydig ynghylch bod yn greadigol!
Mae'r meysydd astudio yn cynnwys:
-
Technegau cynhyrchu cerddoriaeth
-
Sesiwn Gweithdy Wythnosol
-
Y Diwydiant Cerddoriaeth
-
Theori Cerddoriaeth
-
Gosod mewn dilyniant
-
Hanes cerddoriaeth boblogaidd
-
Technegau Stiwdio Recordio
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn, yn bennaf drwy aseiniadau ymarferol, a byddwch yn ymarfer, cynllunio a pherfformio mewn 3 phrif ddigwyddiad cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn. Bydd eich sgiliau fel cerddor ac fel aelod o dîm yn cael eu datblygu a'u herio.
Bydd gennych fynediad at theatr gyda chyfleusterau sain a goleuo ardderchog a fydd yn cael eu defnyddio yn ystod eich sesiynau gweithdy a nosweithiau cerddoriaeth. Byddwch yn defnyddio ein setiau Mac gan redeg Logic X ar gyfer gwaith dilyniant a'n stiwdios recordio sydd newydd eu hadnewyddu ar gyfer y recordiad demo hollbwysig yna.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.
Mae'n rhaid i chi fod yn gallu chwarae offeryn cerdd a byddai o fudd i gerddorion llais fod yn gallu chwarae, neu ddechrau chwarae offeryn.
Pa gymwysterau fyddwch chi'n eu cyflawni:
-
BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 (blwyddyn 1) Diploma Estynedig Sylfaen Cenedlaethol L3 (blwyddyn 2)
-
Bagloriaeth Cymru Uwch
-
Os na wnaethoch lwyddo i sicrhau gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg, yna byddwch angen ailsefyll.
Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus caniatáu i chi fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.
O'r fan honno, mae llwybrau symud ymlaen yn cynnwys mynediad i Addysg Uwch neu'r cymhwyster newydd BA Cynhyrchu Sain a Chyfansoddi Caneuon 2 blynedd (Ar gael ar Gampws Crosskeys).
Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.
Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn flasu lle byddwch yn cymryd rhan mewn gwrandawiad.